Clecs Caron – Rhodri Edwards

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Fro Caron. Y mis ’ma, Rhodri Edwards.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
Screenshot_20230103_134839

Enw: Rhodri Edwards

Cartref: Caerdydd (wreiddiol o Bontrhydfendigaid)

Teulu: Catherine, Efan a Dylan.

Gwaith: Rheolwr Cynllunio Parciau, Cyngor Caerdydd.

Disgrifia dy hun mewn tri gair. Dawel, ffyddlon, cydwybodol.

Hoff atgof plentyndod. Rasio beics rownd Neuadd Bont.

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed? Paid gwastraffu amser poeni am bethau bach.

Beth yw’r ‘row’ mwyaf i ti gael? Half time team talks Jim Bach (Tregaron Youth).

Yr eiliad o’r embaras mwyaf. Torri’r cable oedd yn rhoi signal teledu i Bontrhydygroes.  Hyd yn oed ar ôl cael fy rhybuddio i beidio gwneud.

Pwy yw dy arwyr? Mam, Dad, fy ffrindiau.

Y peth gorau am yr ardal hon? Harddwch naturiol.

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?  Dim yn gyfleus iawn.

Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario? Mynd a’r teulu a ffrindiau ar wyliau. 

Beth sy’n codi ofn arnat? Afiechyd.

Beth oedd yr eiliad balchaf i ti’n broffesiynol? Sicrhau parciau a chaeau chwarae yng Nghaerdydd.

Ac yn bersonol? Chwarae rygbi dros Gymru/lefel proffesiynol.

Beth yw dy gyfrinach i gadw’n heini? Codi pwysau. 

Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti? Ti ddim ond cael allan beth ti’n rhoi mewn.

Beth yw dy hoff air? Bendigedig.

Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol? Stephen Jones.

Beth yw dy ddiod arferol? Guinness.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd? Stêc.

Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen? Think and Grow Rich gan Napoleon Hill.

Hoff emoji.  😬

Os am ddarllen y cyfweliad yn llaw, darllenwch Y Barcud mis Ionawr.
Clecs Caron y tro nesaf… Aled Dark