Bore Sul, 19 Chwefror cynhaliwyd Gwasanaeth Teuluol yn y festri a chroesawyd y gynulleidfa gan y Bugail. Ar hyn o bryd mae plant yr Ysgol Sul yn dilyn stori Noa felly yn briodol iawn roedd yn braf cael tîm ‘Agor y Llyfr’ i ddehongli hanes Noa yn adeiladu’r arch.
Mae’r grŵp yn mynd i Ysgol Henry Richard yn fisol i ddarllen a pherfformio gwahanol storïau o’r Beibl ac mae’r plant wrth eu bodd yn cael cyfle i ymuno yn y perfformiadau.
Diolchodd y Bugail i Evan ac Alice Jones, Lisa Jones, Catherine Hughes am eu cyfraniad i’r gwasanaeth. Cyflwynwyd yr emynau gan Dutt Panchal, Ifan Lawlor, Lisa Jones a Catherine Hughes ac offrymwyd gweddi gan Nel James. Casglwyd gan Dutt a Cerith Evans a chyfeiliwyd gan Alice Jones.
Cafwyd neges fendithiol gan y Bugail i orffen y gwasanaeth. Cyhoeddwyd a diolchwyd i bawb gan Gareth Jones.