Fel rydyn ni wedi sôn yn y gorffennol ar Caron360, yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, addurnwyd y coed tu allan i’r ysgol mewn sgwariau gwlân ar ffurf gwlân-fomio. Derbyniodd yr ysgol y sgwariau gwlân wrth y gymuned ac roedd y coed yn wledd i’r llygaid, yn cyfleu’r ysgol a’r gymuned yn dod at ei gilydd.
Fe ddechreuodd y daith nôl ym Mis Mawrth 2020, pan aeth Blwyddyn 7 (ar y pryd, sydd ym mlwyddyn 10 erbyn hyn) i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth i ddysgu am y diwydiant amaeth a’r diwydiant gwlân yn benodol. Dilynodd y disgyblion uned o waith am y porthmyn, Banc y Ddafad Ddu, mynachod Ystrad Fflur a’r diwydiant sanau yn y dref. Y pennill enwog yw:
“Mae’n bwrw glaw allan,
Mae’n hindda’n y tŷ,
Mae merched Tregaron
yn nyddu gwlân du.”
Mae’n debyg bod y merched yn nyddu gwlân du yn benodol oherwydd bod gwerthiant sanau du yn fwy na gwerthiant sanau gwyn. Roedd hyn oherwydd bod sanau gwyn yn dda i ddim yn y pyllau glo am resymau amlwg ac felly roedd dynion y pyllau glo eisiau sanau du!
Ond, pan ddaeth y cyfnod clo, daeth popeth i stop. Ond doedd y cyfnod diflas hwn ddim yn mynd i ddigalonni’r ardal na difetha ein cynllun arbennig ni felly, buodd y gymuned wrthi yn gwau sgwariau amryliw. Daeth sgwariau o bob twll a chornel o’r Fro a thu hwnt! Un sgwar melyn o’r Amerig hyd yn oed!
Yn Ebrill 2022 ar ôl casglu’r sgwariau bu disgyblion yr ysgol wrthi yn gwau’r sgwariau at ei gilydd er mwyn gorchuddio’r coed. Crewyd defaid hefyd i fynd yn yr arddangosfa, ac roedd y 4 yn pori’n braf o flaen yr ysgol yn ystod yr Eisteddfod. Cafodd yr arddangosfa sylw mawr ac mae’n debyg bod Eisteddfod 2023, Eifionydd, hefyd yn gwneud project tebyg!
Ar ôl yr Eisteddfod tynnwyd y sgwariau i lawr yn ofalus. Golchwyd y cyfan mewn peiriant golchi, eu sylchu ac roedd y sgwariau’n edyrch fel newydd!
Yn yr Hydref, penderfynwyd creu rhywbeth defnyddiol o’r sgwariau pert yma, a dyna pryd y dechreuodd y blwyddyn 7 presennol (ein blwyddyn ni) ar y gwaith difyr yma. Ar ôl trafodaeth mewn gwersi Cymraeg blwyddyn 7, cytunwyd i addasu’r sgwariau mewn i flancedi cynnes. Ysgrifennon ni lythyron, gwnaethon ni waith ymchwil ar y pwnc a gwaith disgrifio. Gofynnwyd i Glwb gwau Tregaron os byddent yn fodlon cynorthwyo gyda’r gwaith o greu’r blancedi ac fe gytunodd y menywod, diolch byth. A dyma ddechrau ar wireddu’r syniad o greu BLANCEDI HAPUS.
Roedd e mor gyffrous i gwrdd â’r gwragedd ac i ddysgu sgil newydd. Cafon ni ein gwahodd i fynd lawr bob yn bedwar neu bump i grosio a gwau. (Mae’r Clwb yn cwrdd bob dydd Mawrth yng Nghanolfan y Barcud yn Nhregaron.) Felly lawr â ni i gael tro ar y grefft. Roedd yn gymaint o hwyl. Cefais i yn bersonol (Lois) fy nysgu gan Mrs Mair Benjamin ac roedd mor braf cael clonc wrth weithio. Roedd y croeso yn fendigedig a tase amser byswn ni wedi aros am y dydd!
Wedi cwblhau’r gwaith, cyflwynwyd y blancedi i Ysbyty Tregaron, i Fryntirion a’r Ganolfan Deuluol yn Nhregaron. Roedd y cleifion a’r deuluoedd yn wên o glust i glust wrth dderbyn y blancedi cynnes yma. Cwrddon ni ag un ddynes yn Ysbyty Tregaron oedd yn ddiolchgar drosben, yn mwytho’r flanced ac yn dweud ein bod ni wedi “gwneud ei Nadolig hi.” Roedd hi’n braf cwrdd â hi a chael clonc wrth i ni ‘ddelifro.’ Gwerthwyd gweddill y blancedi yn yr ysgol i’r athrawon gyda’r elw’n mynd at elusen. Rydyn ni wedi codi dros £200 hyd yn hyn ac mae ambell flanced ar ôl os oes rhywun eisiau un!
Yn ddiweddar, gwahoddwyd y Clwb Gwau i’r ysgol i gael te a chacen er mwyn diolch iddyn nhw am eu cymorth a’u harweiniad. Yn ystod y bore, cyflwynwyd llun iddyn nhw a’r gerdd yma, sy’n addasiad o’r hyn oedd ar yr iet yn yr arddangosfa, sy’n cyfleu’r project i gyd.
“Sgwâr wrth sgwâr sy’n uno’r llun,
Pwyth wrth bwyth, un wrth un,
Fel ein hardal fach fan hyn,
Cryfder sydd mewn undod tynn.”
Mae pawb wedi mwynhau pob eiliad o’r profiad yma a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at y project hwyliog hwn.