Elin oedd enillydd y Gadair yn yr Eisteddfod Ysgol eleni a Bo oedd enillydd y Tlws Saesneg. Dyma Mari’n eu holi am eu cerddi, y broses o ysgrifennu a’r profiad.
Disgybl blwyddyn 11 yw Elin, a Bo ym mlwyddyn 10. Mae’r ddau yn ymddiddori mewn llenyddiaeth ac yn ddisgyblion gweithgar a thalentog. Llongyfarchiadau i’r ddau ohonoch chi.
Dyma’r cerddi.
Gwreiddiau
Boncyff o ddyn
â’i ganghennau’n ddiwyd.
Hadau’r llygaid yn sgleinio.
Gwreiddiau hoffus, cariadus.
Dros amser, gwywodd y gwythiennau,
a’r gwreiddiau ag anghofiodd,
yn pydru’n ddryslyd.
Cof: nid oes yno bellach.
Person adnabyddus, yn ddieithryn.
Rhisgl, erbyn hyn yn oer.
Ymennydd prysur nawr yn llonydd.
Hadau’r llygaid yn wag,
unwaith bu’n sgleinio â chymeriad.
Mae’r geubren fregus dal yn un,
Ond mae’r gwreiddiau dwfn ‘di gwywo.
gan: Stôl, Elin Williams, Teifi
Broken
I once felt as though I belonged back home,
where I would joke with my friends and dine with my family,
where the times we shared would echo through the streets of our town,
where the voices of the joyous and the joyful made us feel as though
we belonged.
I belonged to those streets,
I belonged with those people
I belonged in that house
I belonged.
Then the war came and I had to leave my place of belonging
I had to leave it all behind,
To survive.
For months I trudged through mud, blood and bodies,
For my country, for the place I belonged.
As months turned to years I felt my mind fading,
My purpose shifting, my belonging,
Changing.
I gave away my life, my very essence, to the war,
I now belong to those horrid fields where the voices of
the doomed and the damned echo over distant estates
and long winding trench lives, eventually making
their way into the empty heads of men such as I.
I no longer belong at home,
the once joyous cheers, bring back thoughts
of death and tears.
gan: ‘Pluh,’ Bo Royan, Ystwyth.
Mari ei hun oedd yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair gyda Magi Rowlands yn drydydd.
Cain Owen oedd yn ail yn y Tlws Saesneg a Mossy Murton a Mari Williams yn gydradd drydydd.
Llongyfarchiadau i chi gyd.