Tymor newydd….cit newydd!

Cwmni lleol yn noddi Tîm dan 9 Tregaron Turfs

gan Fflur Lawlor
D4E96E66-3AE3-4898-8CB3

Cwmni Argraffwyr Lewis + Hughes yn cyflwyno y cit i’r tîm

Mae tymor Pêl-droed Iau 2022/23 ar fîn dechrau ac mae tîm Dan 9 Tregaron Turfs Rhinos yn barod i fynd!

Mae busnes lleol Argraffwyr Lewis + Hughes Printers, Tregaron wedi bod mor garedig â noddi’r tîm eleni ac wedi rhoi cit llawn cyntaf i’r criw! Rydym yn hynod ddiolchgar am ei cefnogaeth.

Dyma fydd ei hail dymor yng Nghynghrair Iau Aberystwyth. Bydd y tymor yn dechrau ar ddydd Sadwrn 17eg Medi a dymunwn pob lwc i’r tîm ar gyfer y tymor sydd i ddod.