Tregaron yn barod! 

Eisteddfod Genedlaethol.

Cerith Evans
gan Cerith Evans

Wel wel, mae’r Eisteddfod yn dechrau heddiw! Wrth fynd lawr i’r dref brynhawn ddoe, mae llawer o draffig yn cyrraedd Tregaron yn barod. Mae’r maes parcio yn llanw, mae y gweithwyr wedi bod o dan llawer o bwysau i wneud yn siwr eu bod wedi gorffen yr holl waith erbyn heddiw.

Cofiwch os nad ydy hi’n bosib i chi dod lan i faes yr Eisteddfod rydych yn gallu gwylio y cyfan ar y teledu trwy gydol y Dydd. Hefyd mae Cyngor Tref Tregaron wedi rhoi sgrin fawr ar ganolfan Tregaron ar y sgwar fawr fel eich bod yn gallu mynd wylio yr holl bethau fydd yn digwydd o faes yr Eisteddfod o’r sgwar fawr.

Mi fydd digon o fwyd  a diod ar gael i chi ar faes yr Eisteddfod, cofiwch os oes angen rhywbeth arnoch neu os bod problem, cofiwch eich bod yn mynd syth at swyddfa yr Eisteddfod neu at un o’r stiwardiaid fydd yn mynd o amgylch y maes trwy’r dydd.

Cofiwch eich bod yn cadw yn ddiogel trwy gydol y dydd oherwydd mae maes yr Eisteddfod yn hynod o fawr a gallwch fynd ar goll yn hawdd! Mae hefyd yn bwysig eich bod ddim yn gadael dim sbwriel o amgylch y maes.

Mi fydd llawer o bethau i bawb o’r teulu i wneud ar y maes yr Eisteddfod, o siopa i fynd i’r pafiliwn ac i wylio Dafydd Iwan yn canu. Edrychaf ymlaen i weld chi gyd ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.