Sarn Helen – Prosiect Cynefin Ysgol Rhos Helyg

Dysgu a chreu yn Ysgol Rhos Helyg.

gan Huw Gruffydd Davies

Tipyn o gamp oedd darganfod hanes lleol byddai’n addas i safleoedd Llangeitho a Rhos y Wlad astudio ar y cyd, ond yn dilyn gwaith ymchwil y disgyblion, fe ddarganfyddom hanes ‘Sarn Helen’. Dywedir bod yr hen ffordd Rufeinig yma yn dechrau yng ngogledd Cymru ac yn gorffen yn ardal Caerfyrddin, gan basio heibio pentrefi Lledrod, Bronant, Llangeitho a Stag’s Head. Addas iawn felly! Mae’r disgyblion wedi mwynhau astudio’r hanes yn fawr ac yn edrych ymlaen at weld paneli holl ysgolion Ceredigion yn yr Eisteddfod.