Rholiau Selsig a Llugaeron

Ryseit Eleri James

Eleri James
gan Eleri James
IMG-20221219-WA0006

Cynhwysion

1 pecyn puff pastry

2 x 500g o gig selsig

1 wy

ychydig o flawd

2 llwy fwrdd o saws llugaeron

Dull

1. Rhowch y cig selsig mewn bowlen gymysgu ac ychwanegwch 2 lwy fwrdd o saws llugaeron, cymysgwch yn dda.

2. Rholiwch y toes allan yn ddarn hir sgwâr. Gyda’r gymysgedd cig rholiwch i mewn i un selsig hir a’r roi ar y toes.

3. Gwnewch yr un fath eto tan fod y llenwad wedi’i orffen. Gosodwch y darnau mewn siâp cylch a gwnewch farciau torri gyda’r gyllell. Brwsiwch y cyfan gyda’r wy sy’n weddill.

4. Rhowch yn y ffwrn ar dymheredd o 180oc am tua 20 munud. Gweiniwch gyda ychydig o syntni neu saws o’ch dewis.