Wâc yng nghanol bywyd gwyllt

Beth am fynd am dro ar Gors Caron?

Yn gudd ac eto yn y golwg, dafliad carreg o Dregaron, mae lle prydferth sy’n hynod o bwysig o safbwynt biolegol.

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn gyforgors o bwysigrwydd rhyngwladol. Dyma’r nodwedd mwyaf deheuol o’i math yng Nghymru.

Mae dwy daith gerdded ar gael, ac mae’r ddwy yn cychwyn ym maes parcio’r warchodfa yn SN693627 (neu SY25 6JF ar eich Sat nav). Mae gwybodaeth am y warchodfa, ei bywyd gwyllt, ei bioleg a’i rheolaeth ar gael yn y maes parcio.

Nid oes angen mwy nag awr ar y wibdaith fyrrach, tri cilometr. Mae’n llwybr addas i bob tywydd sydd ag arwyddion da ar hyd y trac rheilffordd segur a’r llwybr pren cylchol. Mae paneli disgrifiadol yn esbonio’r tarddiad, y ffurfiant, y datblygiad, y bioleg a bywyd gwyllt y warchodfa, ac mae gwyriad byr yn mynd â chi at adeilad arsylwi sy’n cynnig golygfeydd i lednant fwdlyd afon Teifi lle gallwch weld adar dŵr yn aml.

Mae’r daith gerdded hirach yn gofyn am ’sgidiau cryf neu ’sgidiau cerdded, ac mae’n mynd â chi i dir dirgel afon Teifi ac at olygfeydd o’r gwlyptiroedd cyfagos a’r gyforgors.

O un man ar y llwybr pren (a ddisgrifir uchod), mae arwydd yn nodi ‘Riverside Walk’ yn cyfeirio’r ymwelydd at ddarn byr o’r llwybr pren ac at giât. O’r fan hon mae darn clir o lwybr glaswelltog yn arwain o amgylch penrhyn tir fferm Maesllyn. Mae cyfres o byst coch a dangosyddion saeth las neu wyrdd yn dod â chi at lan ddwyreiniol yr afon. O’r fan hon, mae’r llwybr yn dilyn i gyfeiriad y gogledd, gan ddilyn glan yr afon a’r cyfres o byst coch. Mae darnau byr o’r llwybr pren a rhai pontydd yn gymorth i groesi ardaloedd corsiog a chilfachau, nes bod pont sylweddol a llwybr pren yn mynd â chi at bwynt ar y rheilffordd segur. Mae troad i gyfeiriad deheuol ar hyd y rheilffordd yn mynd â chi’n ôl yn rhwydd at y maes parcio.

Fe ddylech ganiatáu rhyw bedair awr i gwblhau’r daith gerdded hon o tua saith cilometr.

Mae’r warchodfa yn cynnig llawer i’w weld a’i fwynhau o fyd natur, ac yn cynnig taith gerdded bleserus i ymwelwyr sy’n dymuno mwynhau ychydig o gefn gwlad y fro.