Nos Wener Rhagfyr 2ail daeth cymuned Tregaron allan i ddechrau dathliadau Nadolig y dref. Trefnwyd y noson gan Gyngor Tref Tregaron ac roedd yn gyfle i bawb ddod ynghyd i gael sgwrs, canu carolau, mins pei, diod cynnes a toastie!
Cafwyd adloniant gan Ysgol Henry Richard a Merched Soar, ras Santa gan Campau Caron a ymddangosiad gan y dyn ei hun, Siôn Corn!
Daeth tyrfa dda allan ac mae’r Cyngor Tref yn ddiolchgar am gefnogaeth Y Talbot a Spar Tregaron, Pafiliwn Bont, Ysgol Henry Richard, Caron Stores a Neuadd Goffa Tregaron a gyfrannodd tuag at lwyddiant y noson mewn gwahanol ffyrdd. Diolch hefyd i Teifi Toasties am ei bresenoldeb ar bwyd blasus.
Diolch i chi gyd am ddod ac am gyfrannu tuag at Cymdeithas Ysgol Henry Richard a DPJ Foundation, codwyd swm anrhydeddus o £346.
Cofiwch am daith Siôn Corn o amgylch y dref, nos Iau 22ain Rhagfyr i ddechrau am 6pm.
Nadolig Llawen i chi gyd