Mae’r artist lleol, Gwawr Yim Jones wedi bod yn cydweithio gyda phlant Ysgol Sul Bwlchgwynt i greu murlun trawiadol i harddu tref Tregaron yn barod i’r Eisteddfod.
Mae’r murlun lliwgar sydd wedi ei leoli gyferbyn â’r parc chwarae yn y dref yn cynnwys rhai o nodweddion mwyaf eiconig yr ardal gan gynnwys Capel Soar y Mynydd, Twm Siôn Cati, y barcud, ciosg coch, sanau du, yr afon teifi a gwesty’r Talbot.
“Dwi erioed wedi gwneud dim byd tebyg i hyn, roedd yn dipyn o sialens!” meddai Gwawr Yim Jones sydd fel arfer yn arbenigo mewn gwaith tirluniau a phortreadau anifeiliaid gyda dyfrliwiau.
“Daeth y syniadau yn eitha naturiol. Dwi wedi tynnu lluniau o lot o’r nodweddion sydd yn y llun o’r blaen gan fy mod i’n lleol i’r ardal. Mae ’na cymaint o ddelweddau eiconig yn Nhregaron felly roedd digon o sgôp.”
Bydd gan Gwawr stondin ar Faes yr Eisteddfod yn yr Artisan gyda phrintiau o dirluniau ardal Tregaron a nwyddau gyda rhai o’i darluniau ar werth.