Llwyddiant Celf

Ysgol Pontrhydfendigaid yn ennill yn Urdd 2022

gan Gwenllian Beynon
IMG_5572-1

Seren, Gruff a Delyn gyda’u medalau

Seren-Nixon

Gwaith Celf Seren Nixon 1af Argraffu Blwyddyn 5 a 6

Delyn Huws-Jones

Celf Delyn Huws-Jones 1af Argraffu Blwyddyn 2 ac iau

Gwaith-Grwp

Celf Gwaith Argraffu Grwp Blwyddyn 6 ac iau- Gruff, Maeve, Ianto ac Addiena

Roedd yn wych bod yn ôl ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni ac i fi hefyd yn wych i weld gwaith gweledol ieuenctid Cymru ym mhabell Celf, Dylino a Thechnoleg. Cafodd Ysgol gynradd Gymunedol Pontrhydfendigaid llwyddiant da iawn yn y celfyddydau gweledol ym maes argraffu ac ar ddiwrnod seremoni’r celfyddydau ar ddydd Sadwrn y 5ed o Fehefin cefais y pleser o weld balchder disgyblion yr ysgol wrth iddynt dderbyn eu gwobrau ar lwyfan yng Ngŵyl Triban.

Gwelir yn y lluniau Seren Nixon yn cael 1af am ddarn argraffu blwyddyn 5 a 6. Delyn Huws- Jones yn cael 1af am argraffu Blwyddyn 2 ac iau a Gruff Nixon yn cynrychioli gwaith grŵp blwyddyn 6 ac iau Gruff, Maeve Ianto a Addiena.

Llongyfarchiadau mawr i chi gyd.