Golau Nadolig Tregaron!

Cyngor Tref Tregaron yn trefnu noson Nadoligaidd.

Cerith Evans
gan Cerith Evans
0CF4ADDA-F84E-4555-B865
2DCC4C07-6D06-4B6B-A52D
FA679C0E-7F86-4898-9CB7

Ar nos Wener, yr 2ail o Ragfyr bydd golau Nadolig Tregaron yn cael eu troi ymlaen gan Rhydian Wilson, Cadeirydd Cyngor Tref Tregaron. Mi fydd y noson yn cael ei gynnal ar Sgwâr Fawr Tregaron ac yn dechrau am 6:30 tan 8:30. Bydd Ysgol Henry Richard a Merched Soar yno yn canu, bydd bwyd yn cael ei wneud gan Gwmni Teifi Toasties a bydd diod boeth a mins pei hefyd ar gael.

Hefyd ar y noson mi fydd Campau Caron yn cynnal Ras Siôn Corn felly os ydych am gymryd rhan yn y ras mi fydd angen i chi cofrestru rhwng 7:00 – 7:30 ar y noson.

Bydd elw’r noson yn mynd at Gymedeithas Ysgol Henry Richard a DPJ foundation.

Croeso i bawb!