Gobrwyo’r buddugwyr

Diwedd tymor Clwb Bowlio Tregaron

gan Arwel Jones
Bowls-All-Sorts
Bowls-Osian
Bowls-VL-Orwel
Bowls-VL-Rhian

Daeth tymor arall o fowlio gwych i ben yn Nhregaron gyda’r prynhawn gwobrwyo. Wedi cael cinio blasus gyda Carl Garner a’i griw o helpwyr medrus dathlwyd holl lwyddiannau chwaraewyr y clwb wrth i’r gwahanol dimau, unigolion a chyplau dderbyn eu tlysau.

Pencampwyr yr adran gyntaf – Hotspurs (Wil Jones, Osian Jones, Arwel Jones)

Pencampwyr yr ail adran – All Sorts (Alun Owen, John Powell, Paul Evans, Peter Phillips)

Enillwyr cwpan y gynghrair – Hotspurs (Wil Jones, Osian Jones, Arwel Jones)

Enillwyr yr amryw o gystadlaethau senglau dynion – Osian Jones, Wil, Jones, Orwel Davies, Arwel Jones, Gareth Jones

Enillwyr y ddwy gystadleuaeth parau – Gwynne Jones a John Jones

Enillydd y ddwy gystadleuaeth senglau menywod – Rhian Jones

Enillwyr y parau i fenywod – Margaret Powell a Margaret Jones

Enillwyr y parau cymysg – Rhian ac Arwel Jones

Enillwyr y tîm o dri – Carl Garner, John Powell a Lewis Morgans

Prif bencampwriaeth y clwb yn flynyddol yw’r Victor Ludorum i’r dyn ar fenyw sydd wedi casglu’r mwyaf o bwyntiau mewn cystadlaethau ar draws y tymor, a’r buddugwyr eleni oedd Orwel Davies a Rhian Jones.

Diolch yn fawr i DJ Edwards am ei holl waith o baratoi a chyd-lynu’r cystadlaethau am eleni ac edrychwn ymlaen yn barod at dymor 2023.