Ffeinals Bowlio Cymru

Arwain bob ffordd i Landrindod

gan Arwel Jones
John-bowls

Mae wythnos ynghanol mis Awst bob blwyddyn yn cael ei chyfri fel pincl bowlio lawnt yng Nghymru. Yr adeg yma o’r flwyddyn mae gemau terfynol bowlio Cymru yn digwydd yn Llandrindod ac eleni bydd dau unigolyn o Dregaron yn cymryd rhan yn y gemau terfynol. Caiff Llandrindod ei gyfri gan fowlwyr fel y “Wembley” o’r byd bowlio ac nid ar chwarae bach mae cyrraedd y gemau yma.

Mae Osian a John eisoes wedi chwarae nifer o gemau ac ennill dros Geredigion er mwyn hawlio’r fraint ac anrhydedd o gael mynd i Landrindod. Mewn gemau terfynol caled ac agos yn Llambed fis Gorffennaf llwyddodd y ddau i ennill eu gemau terfynol a hawlio’u lle yn ffeinals Cymru.

Fore Gwener y 12fed Awst bydd Osian Jones yn cynrychioli Ceredigion yn y twrnament dan 18 ag yntau ond yn 12 mlwydd oed. Dyma’r tro cyntaf i Osian gyrraedd Llandrindod felly mae’n sicr o fod yn brofiad a hanner iddo. Er fod ganddo gêm anodd iawn yn erbyn bowliwr profiadol a thipyn hŷn o Bontrhydyfen, mae Osian yn benderfynol o fwynhau ei hun!

“Sdim ots da fi be fydd y sgôr jyst bo fi’n joio a chwarae yn dda fydd popeth yn iawn!”

Unigolyn dipyn mwy profiadol fydd yn cynhyrchioli Ceredigion ddydd Sul y 14eg Awst sef Mr John Jones. Bydd John yn cystadlu yn y gystadleuaeth ar gyfer bowlwyr hŷn. Mae John yn fowliwr profiadol iawn ac wedi profi’r wefr o chwarae yn Llandrindod nifer o weithiau felly gobeithiwn fydd y profiad yma o fantais iddo ddydd Sul!

Dymunwn yn dda i’r ddau wrth iddynt frwydro yn erbyn goreuon Cymru yn Llandrindod.