Mae Eisteddfod Ceredigion ‘ar y gweill’!

Cymuned yn dod at ei gilydd wrth i bobol Llangeitho, Penuwch a Llwynpiod baratoi at yr ŵyl

gan Dan Thomas

Erbyn hyn mae Eisteddfod Ceredigion ar y gweill yn ffigurol ac yn llythrennol!

Mae cymunedau Llangeitho, Penuwch, Llwynpiod, a Stag’s Head wrthi’n paratoi i groesawu eisteddfodwyr drwy dwtio ac addurno’r pentrefi â photiau blodau hardd. Maen nhw hefyd wrthi’n gwlânfomio!

Mae criw brwd a hwyliog wedi bod yn cwrdd bob nos Fercher yn Neuadd Llangeitho i wau, crosio, a gwinio – ac i sgwrsio a chwerthin! Mae’r gymuned gyfan yn cefnogi’r achos i groesawu’r brifwyl, a disgyblion ysgolion Rhos Helyg a Rhos y Wlad hefyd wedi bod yn dysgu crefft newydd.

Beth yw gwlânfomio?

Yn syml, y grefft o winio prosiectau gwau a chrosio ar arwyddion ffyrdd, ffensys, gatiau, blychau post, ac ati.

Defnyddir y term yarnboming yn Saesneg i ddisgrifio’r weithgaredd, ac mae’n weithgaredd sydd wedi dod i’r amlwg yn y blynyddoedd diwethaf ar hyd ac ar led y byd.

Mae aelodau o’r gymuned wedi bod yn gwau ac yn gwinio troedfeddi o byntin, cannoedd o flodau a dail, ynghyd â sanau lliwgar o wlân ar gyfer arwyddion ffordd lleol.

Mae lliwiau’r Urdd a lliwiau Wcráin yn boblogaidd iawn ar gyfer yr addurniadau, ac mae’r criw hefyd wedi cyfrannu sgwariau at brosiect gwlânfomio trawiadol disgyblion Ysgol Henry Richards.

Pam gwlânfomio?

Er bod y syniad o wlânfomio yn un diweddar iawn, mae gan Geredigion gyswllt hir a pharchus â gwlân! Bu’r diwydiant gwlân yn bwysig i economi Ceredigion yn ystod y cyfnod modern cynnar (1500–1800), a merched Tregaron, cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, yn enwog am wau sanau. Mae rhigwm fach draddodiadol sy’n coffáu’r etifeddiaeth hon yn dal i’w chlywed ar lafar gwlad:

Mae’n bwrw glaw allan,

Mae’n hindda’n y tŷ,

Mae merched Tregaron

Yn nyddu gwlân du.

Fel mae’n digwydd, gwnaed dyluniad hyfryd o’r rhigwm hon gan Eiry Dafydd, artist dalentog leol, ac mae’r cysylltiad creadigol hwn ag Eiry yn bwysig iawn i nifer o’r gwlânfomwyr sy’n ei chofio.

“Mae defnyddio’r traddodiad newydd o wlânfomio, felly, yn ffordd greadigol o addurno’n pentrefi ar gyfer y brifwyl”, meddai Cathryn, un o rieni Ysgol Rhos Helyg yn Llangeitho, “ac mae’n ffordd hefyd o wau hanes yr ardal i’r addurniadau gwlân.”

Cysylltu â hanes y fro

Gan fod Sarn Helen yn un o nodweddion amlwg bro’r Eisteddfod, mae addurniadau coch ac aur ar arwyddion ffordd Llangeitho yn dwyn i gof tarianau Rhufeinig, ac addurniadau eraill yn cofio bwrlwm Diwygiad Methodistaidd 1757 yn y pentref.

Hefyd, mae ffens Ysgol Rhos Helyg yn llawn delweddau o chwedlau’r Mabinogi, oherwydd ym Mharcrhydderch, plwyf Llangeitho, y cadwyd Llyfr Gwyn Rhydderch, llawysgrif ganoloesol bwysig a luniwyd, mae’n debyg, ar gyfer Rhydderch ab Ieuan Llwyd (c.1325–1400) ac sy’n cynnwys chwedlau ‘Pedair Cainc y Mabinogi’ a ‘Culhwch ac Olwen’. Mae Llyfr Gwyn Rhydderch o Langeitho yn un o drysorau’r genedl a gedwir bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r llawysgrif wedi cael ei digido a gellir ei gweld ar wefan y Llyfrgell.

Cynllunio ers sbel!

Cynhaliwyd y cyfarfod gwlânfomio cyntaf ym mis Chwefror 2020, ond daeth y pandemig byd-eang yn fuan wedyn, wrth gwrs, i darfu ar y gweithgarwch – ac i darfu ar Eisteddfod Ceredigion ei hun. Gan fod Eisteddfod Ceredigion ‘ar y gweill’ unwaith eto, dyma ailgydio yn y gweill i greu addurniadau lliwgar i groesawu eisteddfodwyr.

“Mae dod at ein gilydd i gydweithio ar y prosiectau gwau, crosio a gwinio wedi bod yn fodd i fyw ar ôl cyfnod anodd y pandemig, ac mae’n ffordd hyfryd a hwyliog o adeiladu momentwm at yr Eisteddfod”, meddai Ann, aelod o’r grŵp.

“Mae aelodau profiadol wedi gallu cyflwyno’r grefft o wau i newyddian fel fi”, meddai Mandi, “ac felly mae’r sesiynau bob nos Fercher wedi bod yn gyfle i atgyfnerthu rhwymau cyfeillgarwch ac i wneud ffrindiau newydd hefyd.”

“Mae gymaint o hwyl i gael,” meddai Sarah, “a phawb yn rhannu syniadau bob wythnos. Mae’r brwdfrydedd wedi cydio yn lleol hefyd, a nifer o gyfraniadau gwerthfawr wedi dod i law – bagiau o wlân i’w ailgylchu a darnau o brosiectau anorffenedig i’w cynnwys yn yr addurniadau. Mae pobl yr ardal wedi bod yn garedig iawn a chefnogaeth y gymuned yn amhrisiadwy!”

Gwlânfomwyr annisgwyl!

Mae’r prosiect gwlânfomio wedi denu gwlânfomwyr annisgwyl… Bu Ben Lake (AS Ceredigion) a Rhodri Evans (Cynghorydd lleol) yn gosod un o’r tarianau Rhufeinig yn Llangeitho, a’r Archdderwydd ei hun, Myrddin ap Dafydd, yn pwytho hosan ar ffurf logo Eisteddfod Ceredigion ar un o arwyddion ffordd y pentref gyda disgyblion Ysgol Rhos Helyg.

Yn sicr, mae’r cyd-greu a’r cyd-chwerthin wedi bod yn llesol iawn i bawb, a’r gobaith yw y bydd gwlânfomwyr yr ardal yn parhau i gwrdd yn rheolaidd i wau, crosio, a gwinio – heb sôn am sgwrsio a chwerthin!

Cofiwch, felly, gadw llygad barcud ar yr arwyddion ffordd ar eich ffordd draw i Dregaron eleni!