Mae’r Dref Fach â Sŵn Mawr yn barod i’ch croesawu!

Y byd a’r betws yn dod i Dregaron!

gan Fflur Lawlor
IMG_3416
IMG_3434

4 mlynedd yn ôl, cyhoeddwyd taw ein tref fach ni fyddai cartref Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 a pwy feddyliau amser hynny, byddai rhaid gohirio 2 waith ac aros mor hir. Ta beth, mae’r amser wedi dod i groesawu pawb i Dregaron!

Dros y misoedd diwethaf mae Cyngor Tref Tregaron wedi bod wrthi gyda help y gymuned yn paratoi a harddu’r dref ar gyfer croesawu’r Eisteddfod.  Mae pawb wedi mynd i’r ymdrech o addurno eu cartrefi, busnes a sefydliadau ac mae’r dref yn edrych ar ei gorau a diolch i bawb am hyn.

Mae’r pwyllgor Apêl Leol a’r Cyngor Tref wedi cydweithio i ddod â’r syniadau’n fyw a diolch i’r Cyngor Tref a Chyngor Sir Ceredigion trwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Gwledig Datblygu am ariannu’r gwaith.

‘Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi bod ynghlwm gyda’r Pwyllgor Apêl Leol ac wedi rhoi o’i amser i godi arian, rhannu syniadau a helpu dros y misoedd diwethaf i roi’r syniadau hynny ar waith.  Hefyd, diolch i Gyngor Tref Tregaron am gydlynu’r holl waith paratoi ac ariannu’r prosiectau. Braf yw cael estyn croeso i’r Wŷl i Dregaron o’r diwedd!’ – Catherine Hughes, Cadeirydd y Pwyllgor Apêl Leol

Mae’r gwaith yn cynnwys meinciau newydd ledled y dref, baneri, baneri pyst lamp, gweddnewid Cerflun Henry Richard, Cylch Cofio ymweliad Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 â Thregaron, arwydd Hollywood ‘Tregaron’, cau’r sgwâr ar gyfer wythnos yr Eisteddfod a llawer mwy.

‘Mae’n braf gweld y dref yn edrych mor lliwgar a chroesawgar – diolch i bawb sydd wedi addurno eu cartref / busnes. Fel Cyngor Tref rydym wedi gweithio yn galed i baratoi’r dref ar gyfer croesawu pawb yma. Hoffwn longyfarch a diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymdrech gymunedol arwrol yma.  Gobeithio cawn wythnos llawn hwyl a bydd y dref yn elwa o fod yn gartref i’r Eisteddfod Ceredigion 2022.’ – Rhydian Wilson, Cadeirydd y Cyngor Tref.

Dros wythnos yr Eisteddfod, bydd y sgwâr tu blaen Y Talbot yn cau – bydd meinciau wedi eu lleoli ar hyd y sgwâr a sgrin fawr wedi ei leoli tu blaen Y Talbot trwy’r wythnos yn darlledu yn fyw o’r Eisteddfod trwy S4C.

Hoffai’r Cyngor Tref ddiolch i gymuned Tregaron am y gefnogaeth a chydweithrediad a gobeithio y byddwch yn mwynhau’r wythnos.