Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 60oed- galwad am Ddeddf Eiddo

Ble well i ddechrau dathliadau 60 nag ar faes y Brifwyl?

Jac Jolly
gan Jac Jolly
27713B65-B0C6-47CD-B02A

Yr darn “deddf Iaith Newydd” gan Ogwyn Davies iw weld ar safle Cymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod

59 mlynedd yn nôl, cynhaliwyd protest cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi i’r Gymdeithas gael ei ffurfio nol yn 1962. Cynhaliwyd y brotest ar bont Trefechan, a danfonwyd neges glir fod angen i’r Cymry fynnu parch i’w hiaith. Ers hynny mae llwyddiant y Gymdeithas i’w weld yn blaen- ffurfiad y Coleg Cymraeg, y defnydd o arwyddion dwyieithog a Deddf Iaith Gymraeg 1993.

Er ei llwyddiannau, nid oedd yn rhwydd i gyrraedd y targedau yma. Roedd actifyddion y Gymraeg yn brwydro am barch a chydnabyddiaeth Cyfreithiol i’r iaith. Yn aml roedd yr ymdrechion yna yn gorffen mewn carchariaeth brotestwyr.

Mae’r dathliadau am holl waith y Gymdeithas i’w weld yn Nhregaron yr wythnos yma. Mae’r Clwb Rygbi am gynnal gigiau’r Gymdeithas trwy gydol wythnos yr Eisteddfod, efo artistiaid fel Morgan Elwy ac Adwaith yn perfformio i’r cyhoedd. Mae’r gigiau wedi bod yn llawn ac wedi cael derbyniad da hyd yn hyn.

Yn ogystal â gigiau, mae darn arbennig iawn o waith ar ocsiwn gan y Gymdeithas. Gwaith gan yr enwog Ogwyn Davies. Un a oedd yn gyfarwydd iawn â Thregaron- efo sawl llun wedi ei ysbrydoli gan y fro- gan yr oedd yn athro gelf am nifer o  flynyddoeddyn yr Ysgol Uwchradd. Mae testun y darlun “Deddf Iaith Newydd” yn siarad dros ei hun, yn waith cefnogol o gyn ymgyrch y Gymdeithas nol yn 2001, a oedd yn galw ar y Cynulliad i greu Deddf Iaith newydd- un fyddai’n normaleiddio dwyieithrwydd rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yma’n Nghymru. – Rhai o’r gofynion oedd; fod yr Iaith Gymraeg yn cael ei chydnabod fel priod iaith Cymru a bod yna ddarpariaeth Gymraeg ym mhob sector yn y wlad. Hefyd fod yr iaith Gymraeg yn derbyn blaenoriaeth efo’r chwyldro digidol.

Erbyn hyn, mae’r Gymdeithas efo bwriad newydd, sef creu deddf eiddo a fydd yn galluogi tai lleol i bobl leol. Mae’r testun o dai a chartrefi yn un llosg yng Nghymru efo llawer yn ofni na fyddant yn gallu byw yn y cymunedau a’u magwyd ynddo. Mae’r sloganau “Nid yw Gymru ar werth” a “Hawl i fyw gatre” yn boblogaidd ymhlith cefnogwyr gweledigaeth y Gymdeithas am y ddeddf eiddo. Mi fydd y Ddeddf yn sicrhau bod tai a chartrefi yn cael eu gwarchod i bobl leol yn eu cymunedau, ac yn taclo’r broblem o dai haf ac ail dai.

Fel rhan o’r ymgyrchu, mae’r Gymdeithas am gynnal gorymdaith, “Nid yw Cymru ar Werth” yma yn Nhregaron, yn dechrau o’u pabell nhw ac yna mi fyddan nhw yn gorymdeithio ymlaen i safle’r llywodraeth ar faes yr Eisteddfod. Mae cadeirydd yr Gymdeithas, Mabli Siriol yn galw ar eisteddfodwyr i ymuno efo’r gymdeithas yn yr Orymdaith am yr hawl i fyw adref. Mi fydd yr orymdaith yn dechrau am 2 o’r gloch ar ddydd Iau. Mae croeso i bawb ymuno.