Croeso i Dregaron! 

Eisteddfod Genedlaethol bron â chyrraedd!

Cerith Evans
gan Cerith Evans
F179E41E-61D5-45BA-96C4
25ADF8EF-1206-46B0-BD5F

Braf oedd mynd o amgylch Tregaron heno a gweld  fod  holl drigolion y dref wedi rhoi llawer o faneri fyny yn barod ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae llawer o waith wedi cael ei wneud ar faes  yr Eisteddfod yn barod ac mae pawb yn edrych ymlaen i groesawu pawb i Dregaron eleni.

Cofiwch mae dal digon o amser i chi roi bunting neu faneri i fyny. Os ydych yn chwilio am rywbeth i addurno eich cartref ar gyfer yr Eisteddfod mae gan Anrhegaron, Tregaron ddigon.

Rwyf wedi bod ati yn helpu Cyngor Tref Tregaron i addurno y dref yn barod i roi croeso mawr i’r Eisteddfod trwy  roi bunting i fyny o amgylch y dref fel yr ydych yn siŵr o fod wedi sylwi. Edrychwn ymlaen at roi y croeso gorau i’r Eisteddfod Genedlaethol!