Diolch John am deyrnged arbennig.
Ar Nos Sadwrn y 5ed o Chwefror, taenwyd cwmwl du dros bentre’r Bont a chymunedau ehangach, pan gyrhaeddodd y newyddion torcalonnus a syfrdanol am farwolaeth y cymeriad ffraith Selwyn.
Wrth geisio crynhoi atgofion personol amdano,mae un llythyren o’r wyddor yn mynnu amlygu ei hun o hyd, sef y llythyren C ac mae’r rhestr yn un hir.
Cymeriad, Cymro i’r carn, Cenedlaetholwr, cymwynaswr, cadarn, caredig, cydwybodol, cefnogwr, cymdeithaswr, cyfarwydd, consyrn, cyflwynydd, cymuned, capelwr, cyfaill a mentra i ddweud, Cardi!
Heb amheuaeth roedd e’n gymeriad mawr a’i bresenoldeb bob amser yn llanw unrhyw adeilad.
Roedd yn Gymro balch a Chenedlaetholwr ffyrnig a wastad yn gadarn ei farn am bynciau’r dydd. Roedd e’n ddi-droi nôl, ond eto roedd pawb yn parchu ei safbwynt.
Roedd yn gymwynaswr caredig a chydwybodol yn y gymuned. Gyda’i briod Neli, gweithiodd yn ddiflino am ddegawdau dros Eisteddfodau Teulu James, Pantyfedwen. Poenai am ddyfodol y Pafiliwn, ac roedd mor gonsyrnol am y rhai oedd yn brin o iechyd, ac yn ymwelydd cyson i weld henoed y pentre a’r rhai claf yn eu cartrefi neu gartref Bryntirion, Tregaron.
Roedd yn gefnogwr brwd o bopeth Cymreig a Chymraeg – o Eisteddfod i gyngerdd i ddrama. Ef oedd un o sylfaenwyr yr Hoelion 8 yn y fro, yn wir, ei nychu di-ddiwedd e a yrrodd criw ohonom i sefydlu Cangen Cors Caron. Ychwanegwch bapur bro’r Barcud a gwelwch ei fod yng nghanol ‘y pethe’ drwy’r amser.
Ac wrth gwrs, tîm rygbi Cymru. Roedd e’n gefnogwr mawr o’r tîm Cenedlaethol, ac mae’n eironig ei fod newydd wylio’r gệm yn erbyn Iwerddon brynhawn Sadwrn cyn cael ei gymeryd oddi wrthym. Oedd, roedd gwylio gêm Ryngwladol yn ddiwrnod mawr i Sel bob amser pan oedd yr iechyd yn caniatáu.
Heb amheuaeth, meddai ar ddawn y Cyfarwydd. Roedd wrth ei fodd yn cymdeithasu a hawliai sylw bob tro gyda’i ddawn dweud stori o gwmpas y tân yn y Talbot neu’r Llew Coch. Ef oedd canolbwynt y cwmni, gyda’i lais treiddgar, ei hiwmor a’i ffraethineb, a’i gefndir eisteddfodol fel enillydd Cenedlaethol yn dod i’r amlwg hefyd. A phan fyddai’r hwyliau’n dda, a hynny’n aml iawn, byddai wrth ei fodd yn codi’r canu a’n harwain mewn cymanfa o’r hen ffefrynnau, er mai emynau fyddai’n cael y prif sylw.
Ac wrth sộn am emynau, roedd yn gapelwr selog. Prin y collai oedfa yng nghapel M.C. Y Bont, a Neli wrth gwrs ar yr organ. Yn ogystal, roedd wrth ei fodd yn dod i oedfaon y Bedyddwyr i gefnogi pan nad oedd oedfa’n y Methodistiaid.
Roedd yn gyflwynwr (arweinydd) penigamp mewn digwyddiadau’n y pentre. Roedd hi’n bleser ei glywed yn arwain yn Eisteddfodau teulu James Pantyfedwen ac yn ‘Archdderwydd’ yn seremonïau’r coroni a chadeirio. Gyda’i briod Neli, cawsant yr anrhydedd o fod yn Llywyddion y dydd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 yn Nhregaron-anrhydedd deilwng .Rydym yn dal i ddisgwyl am yr Eisteddfod, a mawr obeithiwn y caiff Selwyn goffâd haeddiannol ar y diwrnod.
A sôn am goffâd, pan fyddai angladd yn y pentre, yn aml iawn ar Selwyn y byddai’r teulu’n pwyso i roi’r deyrnged, a gwnâi hynny gyda graen ac urddas bob tro.
Er ei fod fel ni i gyd yn falch o’i wreiddiau ac yn canu clodydd Abercegyr yn gyson, byddem yn aml yn tynnu ei goes gan ddweud ei fod bellach, ar ôl ymron i hanner canrif yn Y Bont, yn Gardi go iawn. Gallwch ddychmygu’r ymateb!!!
Ac i gloi, y pwysicaf efallai o’r cyfan, Selwyn y cyfaill. Wrth grwydro Cymru a dod i adnabod hwn a’r llall, a dweud fy mod yn dod o Ffair Rhos, rhyw filltir o’r Bont, yr ymateb bob tro yw, ‘Pontrhydfendigaid…Selwyn a Neli…mor ffodus ydych ohonynt.’ Mae pawb yn nabod Selwyn, ac mae wedi bod yn gyfaill da a thriw am ymron hanner canrif.
Colled enfawr i ni fel pentre a chymuned ehangach yw colli Selwyn a chydymdeimlwn gyda’i deulu oll.