Enw: Elfyn Pugh
Cartref: Criccieth (via Stag’s Head)
Teulu: Elin, Anna , Harri a Mos
Gwaith: ‘Cyfrifydd’
Disgrifia dy hun mewn tri gair. Trio. Gwneud. Gormod.
Unrhyw hoff atgof plentyndod. Chwarae Pêl-droed a Rygbi yn Ysgol Gynradd Llangeitho ac Ysgol Uwchradd Tregaron.
Yr eiliad o’r embaras mwyaf. Crasho’r car mewn i bont yn Llanwnnen, a gorfod gofyn i ffrind i fynd a fi, a’r car adre.
Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed?
Bod yn ddiolchgar o bob eiliad.
Pwy yw dy arwyr? …ar hyn o bryd, Kieffer Moore a Taulupe Faletau
Beth yw dy arbenigedd? ‘Jack of all trades’ a ddim yn arbenigo yn dim byd!
Beth wyt ti’n gwneud yn dy amser hamdden? Trio hyfforddi tîm pêl-droed a gwirfoddoli ar griw Bad Achub Criccieth.
Pa fath o berson sy’n mynd o dan dy groen? Anonest
Pryd llefaist ti ddiwethaf? Euros 2016
Wyt ti’n difaru rhywbeth? Stopio chwarae rygbi, yn rhy ifanc.
Beth yw dy gyfrinach i gadw’n heini? Cadw i symud.
Beth yw dy gyfrinach i gadw’n bert / i gadw’n gryf? Defnyddio siampŵ a conditioner da, ac yfed Guiness.
Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti? Anadlu allan wrth agor pob drws,
Yr eiliad a newidiodd dy fywyd? Cael ci…… (Na joc -priodi a chael plant!)
Beth yw dy hoff air? Penwythnos.
Eich gwyliau gorau? Norfolk Broads gyda ffrindiau ysgol nol yn nawdegau.
Beth fyddet ti’n argymell i ni ei wylio/ei ddarllen? Eckhart Tolle : The Power of Now
I ddarllen y cyfweliad yn llawn, bydd rhaid i chi brynu Papur Bro Y Barcud, Rhifyn Rhagfyr.
Clecs Caron tro nesaf.. Rhodri Edwards. (gynt o Bont ond sydd bellach yng Nghaerdydd)