Enw: Rhian Jones
Cartref: Caerdydd
Teulu: Brian y gŵr, a 3 o fechgyn – Noa, Aron a Cian
Gwaith: Gweithio i’r BBC fel Cydlynydd Cynllunio Playout
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Trefnus, Siaradus, hwyliog
Unrhyw hoff atgof plentyndod. Cofio bod yr hafau wastad yn boeth ac yn sych – a dim son am law am 6 wythnos
Hoff raglen deledu pan oeddet yn blentyn.
Biker Grove – a dal yn ffan mawr o Ant a Dec
Yr eiliad o’r embaras mwyaf.
Cael shell suit pinc ( digon o embaras edrych nôl nawr) ond yr elastig yn mynd – a mam yn rhoi belt i fi wisgo i ddal y trowsus lan.
Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.
Dweud diolch.
Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed?
Gwisga unrhyw ddillad a hyder – a mae e’n ffasiwn.
Pryd a ble wyt ti fwyaf hapus?
Ar wyliau efo teulu ar lan y môr efo’r haul yn gwenu.
Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?
Wedi bod yn gweithio o adref , ond yn dychwelyd nôl i’r swyddfa yn araf sy’n beth braf. Roedd cael pawb adref 24/7 yn gyfnod gwahanol a braf ar y cyfan, ond dwi bendant ddim moin mynd nôl i orfod dysgu o adref!
Y peth gorau am yr ardal hon?
Nabod pawb, neu nabod rhywun sy’n nabod nhw, y golygfeydd, a bod mor agos i’r môr a’r mynydd.
Y peth gwaethaf am yr ardal hon?
Mae angen car neu drefnu lift i fynd i bob man.
Beth wyt ti’n gwneud yn dy amser hamdden?
Yoga a mynd ar feic Spin. Er i ni newydd gael ci bach – felly mae lot fawr o fy amser yn mynd nawr yn cerdded y ci!
Pa fath o berson sy’n mynd o dan dy groen?
Pobol sy’n cwyno, er ddim yn cynnig dim help i wella’r sefyllfa.
Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario?
Prynu tŷ gwyliau yn Ibiza.
Beth sy’n codi ofn arnat?
Llygod mawr, a meddwl gormod os ydy’r dydd yr un hyd nawr a pan oeddwn yn blentyn – amser yn hedfan
Pryd llefaist ti ddiwethaf?
Dechrau’r haf pan nes grafu ein car newydd – y siom!
Beth oedd yr eiliad balchaf i ti’n broffesiynol?
Bod yn llais y peli (voice of the balls) Cardingo pan yn gweithio yn Radio Ceredigion – dal yn cofio “ dyna eich rhifau, pob lwc i chi”
Ac yn bersonol?
Bod yn fam
Wyt ti’n difaru rhywbeth?
Crafu’r car!
Beth yw dy gyfrinach i gadw’n heini?
Neud rhywbeth dwi’n mwynhau.
Beth yw’r cyngor gorau a roddwyt i ti?
Os na fedru di wneud da, paid a gwneud drwg. Hen ewythr doeth a charedig nath ddweud wrtha i a fy mrawd pan oeddem yn blant.
Yr eiliad a newidiodd dy fywyd?
Bod yn fam a chael y we ar y ffôn!
Beth yw dy hoff air?
Tocyn wrth gyfeirio at becyn bwyd.
Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?
Cian o’r Super furry animals – neu i ni – hyfforddwr Pêl droed Cian( ni).
Beth yw dy ddiod arferol?
Te, coffi du, Prosecco neu gin
Beth yw dy hoff bryd o fwyd?
Pitsa
Sut wyt ti’n ymlacio?
Gwylio murder mystery ysgafn ar y teledu – lle mae llofruddiaeth, datrys a wedyn pawb i’r dafarn i ddathlu – tebyg i Death in Paradise.
Pa wefan wyt ti’n ymweld â hi fwyaf aml?
Eich gwyliau gorau?
Mynd ar easy cruse o amgylch Yr Eidal a Ffrainc a hwylio i mewn i Monte Carlo ar long fawr Oren.