Cant ar y Copa

Twm Siôn Cati yn arwain taith i ben Pumlumon.

Gwion James
gan Gwion James
pumlumon1

Argae Nantymoch ac i’r Gorllewin o ben Pumlumon

Pumlumon2

Un o deithiau blaenorol Dafydd i Bumlumon

Mae’r dywediad ‘Tri chynnig i Gymro’ yn arbennig o wir i Dafydd Wyn Morgan o Dregaron, sydd oherwydd cyfyngiadau covid-19 yn ail drefnu taith gerdded i Bumlumon am yr ail dro. Mae Dafydd, sydd wedi dod â’r cymeriad Twm Siôn Cati yn fyw yn brofiadol iawn am arwain teithiau cerdded dros nifer o flynyddoedd.

Er budd Cronfa Leol Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2022, mae’r daith Ddydd Sul yma, y 1af o Fai, yn bartneriaeth rhwng cymunedau Croeso i Gerddwyr Pontarfynach, Tregaron, Llanbedr Pont Steffan a Llandysul/Pont Tyweli. Y nod yw cael cant o gerddwyr i gopa mynydd uchaf Ceredigion, Pumlumon Fawr 2468tr, yn ddiogel a threfnus. Mae bron i gant wedi arwyddo i fyny hyd yn hyn ac mae’r trefnwyr yn croesi bysedd am dywydd da ar y diwrnod.

“Mae’n dipyn o her i unrhyw un ddringo mynydd uchaf Ceredigion a dwi am weld pawb yn cyrraedd y copa ac yn ôl, wedi cael diwrnod arbennig ar y mynydd. Dwi am ddiolch i aelodau’r pedair cymuned am gynorthwyo gyda’r trefniadau ac i’r cerddwyr am gasglu nawdd tuag at y gronfa leol.” meddai Dafydd Wyn Morgan ar ran y pwyllgor trefnu.

“Dwi’n edrych ymlaen at gael cerdded gyda chriw da o gerddwyr a chael rhannu’r golygfeydd godidog gyda nhw.”

Mae nifer fach o lefydd ar ôl ar gyfer y daith, os hoffech ymuno cysylltwch gyda Dafydd trwy e-bost twmstreks@btinternet.com neu ffôn 07748675798