Arian Banc y Ddafad Ddu ym ymddangos yn ’Steddfod Bont

Yr eisteddfod leol yn arwydd bod cymunedau Ceredigion yn deffro wedi Covid

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Dyma ddigwyddiad lleol fu’n codi hwyl cyn ymweliad y brifwyl â’r ardal – yn gyfle i ddod â phobol leol ynghyd unwaith eto ac ailgynnau ein diwylliant wedi Covid.

I ddathlu hynny fe gafodd pawb oedd yn bresennol ddarn o Arian y Cardi!

Arian newydd yw hwn gan Fanc y Ddafad Ddu – y banc hynaf yng Nghymru, sydd â’i wreiddiau yn Nhregaron.

Mae wedi’i greu gan yr Eisteddfod Genedlaethol fel ffordd o dalu nôl i bobol Ceredigion am gefnogi digwyddiadau codi hwyl yn lleol.

Os ydych chi’n awyddus i drefnu digwyddiad bach hwyliog i godi hwyl yn eich ardal chi, cymerwch olwg ar y syniadauyma (neu ewch ati a chynnal beth bynnag chi’n moyn!) a chofiwch gysylltu â Lowri i archebu bwndel o Arian y Cardi i’w dosbarthu yn eich digwyddiad.