Mae’r arlunydd Marian Haf sydd yn byw yn ardal Pontrhydfendigaid/ Ffair Rhos yn arddangos gwaith Celf yn Galeri Caernarfon tan 23 o Orffennaf. Mae yn arddangos ar y cyd a Leigh Sinclair ac meddai Marian
ni ’di bod yn frindie ers cwrdd pan o ni ar foundation yng Nghaerfyrddyn
Mae’r cyrsiau Sylfaen mewn Celf a Dylunio fel yr un yng Nghaerfyrddin, ble gwnaeth Marian a Leigh cwrdd yn gyntaf, yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau mewn Celf a dylunio cyn mynd ymlaen i wneud gradd ac i arbenigo mewn pwnc mwy Penodol, ar gwrs sylfaen mae posibiliadau o arbrofi mewn nifer fawr o bynciau celfyddydau gweledol. Mae llawer sydd wedi astudio ar cyrsiau sylfaen yn honni bod y flwyddyn o astudio ar gwrs sylfaen yn un o flynyddoedd gorau mewn gyrfa celf- dw i yn un o rain.
Yn yr arddangosfa Y Llanw Distaw gwelir Leigh a Marian, nid yn unig yn arddangos gweithiau celf unigol ar welydd yr oriel ond gwelir hefyd y ddau wedi cyd creu gwaith gosod yn benodol i’r lleoliad, mewn furff murlun. Ceir fwy o wybodaeth am yr arddangosfa yn y Safle Celf ar wefan Galeri Caernarfon.
Leigh Sinclair + Marian Haf
Y Llanw Distaw
11/06/22 – 23/07/22Mae’r arfordir i lawer yn lleoliad i archwilio ac i ddianc. Gyda hyn mewn golwg mae Leigh Sinclair a Marian Haf wedi defnyddio glan y môr fel cymorth i wthio harferion nhw mewn ffyrdd cydweithredol chwareus.
Mae’r proses arbrofi wedi bod yn sail i’r curadu yn ogystal â chwblhau’r gwaith. Darparodd Galeri’r rhyddid iddynt i dorri’n rhydd o ‘hongian’ arferol, traddodiadol. Gan ganiatáu Leigh a Marian i ddod ag elfen o’r chwareusrwydd, i’w fwynhau gan ymwelwyr yn yr un goleuni
Os ydych am fwy o wybodaeth am waith Leigh ewch i’w Instagram @leigh_sinclair ac i Instagram Marian @marianhaf.
Ar eu cyfrifau Instagram mae Marian a Leigh yn sôn yn fras am eu ffurf o greu a hefyd ceir ffilmiau byrion sydd yn dangos elfen o’u broses o gyd creu.
Os byddwch yn ardal Caernarfon mae’r arddangosfa i’w gweld tan 23 o Orffennaf.