Tre’ heb roc

Dim TregaRoc am yr ail flwyddyn yn olynol

Ffion Medi
gan Ffion Medi
183464317_888019328596606

Cowbois Rhos Botwnnog

183482831_842902896317988

Y Babell Fawr yn orlawn

183597693_136735831815723

Merched y pwyllgor gyda Dafydd Iwan

184098685_137217671766484

Llwyfan y babell fawr

184248097_797475520892745

Pwyllgor TregaRoc : Rhian Jones, Fflur Lawlor, Rhian Jones, Mared Jones, Deina Hockenhull a Ffion Medi

184248144_798121777794028

Y Sgwar Fach

184796032_271446714691172

Dafydd Iwan a’r Band

185282448_905607006681328

Sunny Hill

185302471_956999091718343

Y merched gyda Huw Stephens

185305729_169896988289505

Y pwyllgor gyda Ryland Teifi

185548172_526113108556394

Y dorf

185667276_2175249315944424

Y Clwb Bowlio

186008087_152256026863246

Y Sgwar fach

186183513_1102751886885988

Eden yn y Babell Fawr

186472465_167601951861167

Baldande yn rocio’r babell fawr

186496805_495989075049763

Dawnsio ar y Sgwar Fawr

186496856_820933461964476

Tu allan i’r Talbot

186498676_466786891209329

Sorela

186528782_1387866318260629

Tre fach â sŵn mawr

Mae’r trydydd Sadwrn ym mis Mai wedi sefydlu yng nghalendrau pobol Cymru bellach fel penwythnos TregaRoc! Mi ddylai’r dre’ fach â sŵn mawr fod yn ferw gwyllt o gerddoriaeth Gymraeg a phobl yn teithio o bob cwr o’r wlad i fwynhau’r arlwy. Ond yn anffodus, nid fel yna y bu hi eleni.

O ganlyniad i’r pandemig a’r holl gyfyngiadau dyma’r ail flwyddyn yn olynol i ni golli allan ar ddiwrnod a hanner o gymdeithasu a mwynhau cerddoriaeth ddiweddaraf y sîn roc Gymraeg. Yn ôl Deina Hockenhull, un o drefnwyr yr Ŵyl,

“Yn amlwg mae’n siom nad oes modd cynnal yr Ŵyl eleni ond rhaid glynu at ganllawiau iechyd a diogelwch a byddai’n amhosib gadael cannoedd o bobl i mewn i’r dref. Rhaid sicrhau diogelwch y cyhoedd yn hyn o beth”.

Mae Mared Rand Jones, un arall o’r criw yn edrych ymlaen at 2022,

“Mae 2022 yn mynd i fod yn flwyddyn fawr i Dregaron ac erbyn hynny mi fydd pawb yn ysu am gael mwynhau darn bach o ddiwylliant Cymru boed yn ŵyl gerddorol, sioe amaethyddol neu ddigwyddiad tebyg”.

Mae TregaRoc wedi llwyddo i ddenu amrywiaeth o artistiaid gorau’r wlad dros y blynyddoedd a bydd TregaRoc 2022 ddim gwahanol! Hir yw pob aros, ond mi fydd Tregaron yn dre’ fach â sŵn mawr unwaith yn rhagor – dim ond mater o amser.

Edrychwn ymlaen at gael rocio ar Fai 21ain, 2022. Nodwch y dyddiad yn eich dyddiaduron, nawr!

Rhannwch eich atgofion o’r ŵyl dros y blynyddoedd gyda ni heddiw drwy rannu lluniau, clipiau fideos ayb.