Sesiynau Blasu Rhad ac Am Ddim

Bydd Dysgu Bro yn cynnig sesiynau blasu RHAD AC AM DDIM yn Festri Bronant, yn Gymraeg ac yn Saesneg, dydd Gwener 1 Hydref 2021.

gan Delyth Humphreys

Nod Dysgu Bro yw darparu cyfleoedd dysgu i drigolion Ceredigion yn eu cymunedau fydd yn eu hannog i ddatblygu diddordebau newydd, gweithio tuag at gymhwyster neu wella’u sgiliau ar gyfer y gweithle.

Dydd Gwener, 1 Hydref, yn Festri Bronant, bydd cyfle i gael blas ar rhai o’r cyrsiau.

Mae cyrsiau Dysgu Bro yn cynnwys:

  • Cadw’n Heini
  • Cyflwyniad i Facebook a Chyfryngau Cymdeithasol
  • Cymysgu miwsig ar yr iPad
  • Dylunio Gwefan
  • Excel (taenlenni)
  • Ffotograffiaeth Digidol
  • Gwneud ffilmiau ar yr iPad
  • Hanes Teulu
  • iMovie (creu fideos)
  • Powerpoint (cyflwyniadau)
  • Publisher (cyhoeddi pen-bwrdd)
  • Photoshop (trin delweddau)
  • Trefnu Blodau
  • Windows 10
    • Word

I gofrestru, cysylltwch â Delyth ar 07837 926166 mor fuan â phosib.