Rhys ar Ras i Gaffi Gruff

Puncheur Penuwch!

Gwion James
gan Gwion James
FB_IMG_1621017448747

Rhys Iorwerth

FB_IMG_1621295058144

Gruff yn ei Gaffi, mae hefyd yn asiant i gwmni beics safonol BMC o’r Swistir

received_217844193177731

Rhys gyda Clwb Caron

Rhys Iorwerth, Llidiart Maengwyn, Penuwch yw’r diweddaraf i gael ei wahodd i ymuno a thîm seiclo Caffi Gruff o dan arweiniad Pencampwr Cymru Gruff Lewis.

Ers dechrau seiclo gyda Chlwb Seiclo Caron tair blynedd yn ôl mae Rhys sy’n 21 oed wedi gwneud cynnydd aruthrol.  Yn dilyn cyfnod gyda Chlwb Ystwyth ac o dan hyfforddiant personol Gruff Lewis, daeth Rhys yn bumed yn ei ras gyntaf erioed ym Mis Chwefror 2020. Yn anffodus daeth cyfnod clo COVID-19 i’w rwystro.

Seiclwr lled-broffesiynol gyda thîm Ribble-Weldtite yw Gruff Lewis, ac mae ganddo gaffi a siop beics yn Nhalybont. Sefydlodd Tîm Caffi Gruff yn 2018 er mwyn meithrin talent ifanc. Mae pymtheg aelod yn rhan o’r tîm o bob rhan o Gymru a Rhys yw’r pumed aelod o Geredigion i gael ei wahodd i’r tîm.

“Mae Rhys yn ychwanegiad pwysig i dîm Caffi Gruff eleni” meddai Gruff  “Yn ogystal â thalent naturiol, mae ganddo agwedd gystadleuol ac ymroddiad llwyr i’r ymarfer. ‘Puncheur’ yw steil Rhys. Seiclwr sy’n gallu ymosod dros ddringfeydd gymharol fyr, ac sy’n ddelfrydol ar gyfer rasys un dydd- a thirwedd Canolbarth Cymru!”

A tybed sut brofiad yw cael bod yn rhan o dîm Caffi Gruff? “Mae’n grêt” meddai Rhys. “ Ma’ ca’l ymarfer a threulio amser gyda seiclwyr safonol yn help i mi, a ma cal hyfforddiant gan Bencampwr Cymru yn arbennig”

Wrth i ddigwyddiadau chwaraeon gael eu hail gyflwyno yn ystod 2021, mae Rhys yn edrych ymlaen at rasio eto.

“Ma’ rasys yng Nghymru wedi cael eu cynllunio, ond does dim dyddiadau pendant ar hyn o bryd,” meddai.  “Ma rasys i gal’ dros y ffin yn Lloegr, a dwi’n gobeithio cystadlu yn rhein dros y misoedd nesa. Y bwriad ‘leni yw rasio cymaint â phosib, a gwneud cyfraniad i’r tîm”

“Mae’n wych i weld seiclwr lleol yn datblygu cystal” meddai Meic Fitch, Ysgrifennydd Clwb Seiclo Caron. Pan ymunodd Rhys â’r Clwb, dangosodd botensial mawr, ac mae ei ymroddiad wedi ennill lle iddo yn nhîm Caffi Gruff- mae’r Clwb yn falch iawn drosto”

 

Mae Seiclo Cymru wedi mwynhau’r cyfnod gorau erioed dros y ddegawd ddiwethaf, gyda nifer o seiclwyr o Gymru yn cystadlu ar lefel uchel iawn. Yr uchafbwynt, wrth gwrs, oedd Geraint Thomas yn ennill y Tour De France yn 2018. Mae’r llwyddiant hyn wedi ysbrydoli nifer o seiclwr ifanc fel Rhys i gymryd at y gamp. Mae Gruff Lewis a Steven Williams o Geredigion eisoes yn seiclwyr proffesiynol, a thybed a welwn ni seiclwr arall o’r Sir yn gwneud enw i’w hun yn y dyfodol? Cofiwch am Rhys Iorwerth- Puncheur Penuwch…