Newyddion gwych. Mae gobaith!
Yng Nghanolfan Hamdden Tregaron heddiw, daeth dros 220 o’n trigolion sydd dros 80 oed i dderbyn eu brechlyn Oxford Astra Zeneca.
Cafodd y Feddygfa a’r gymuned eu canmol am y trefniadau ac roedd pawb wrth eu bodd yn cael derbyn y pigiad. Nodwyd, ar sawl achlysur heddiw, taw dyma “ddechrau’r diwedd”… O’r diwedd!
Diolchodd Dr Carl Langley o’r feddygfa i’r holl henoed a’u teuluoedd, ffrindiau a chymdogion. “They were superb,” meddai.
Roedd holl staff y feddygfa yn falch o gael dechrau ar y gwaith o frechu trigolion ein bro.
Rhaid yw cydnabod ymdrech yr holl wirfoddolwyr hefyd heddiw. Diolch i chi gyd.
Rhoddwyd y Ganolfan Hamdden am ddim ar gyfer y digwyddiad hanesyddol yma, oherwydd diffyg cyllid mae’n debyg.
Eirioes Ayres oedd y cyntaf i dderbyn y brechlyn. (gweler y llun) Gweler llun hefyd o Aerona Rees yn eistedd am 5 munud wedi’r brechlyn.
Ymlaen yn nawr i frechu’r trigolion 80+ sy’n gaeth i’r tŷ ac yna gweithio drwy’r categorïau oedran.