Yn ystod duwch a diflastod y Cyfnod Clo y llynedd, lledaenu lliw a gobaith a wnaeth Mair James o Landdewi Brefi.
Crosio yw ei chrefft, a bu’n crosio enfysau mawr a bach a’u dosbarthu ar draws ein pentref. Yn wir, roedd gan bob cartref ar un lôn yn Llanddewi Brefi, sef Lôn Prysg, enfys yn eu ffenestri, diolch i Mair. Wrth gerdded drwy’r pentref o hyd, fe sylwch ar enfysau hardd mewn ffenestri, ar ddrysau, mewn gerddi a hyd yn oed mewn ceir.
Dechreuodd Mair trwy greu ambell un i ffrind, ac o ganlyniad i’w poblogrwydd, derbyniodd negeseuon gan bobl o bob cwr o’r Sir a thu hwnt yn archebu’r campweithiau. Danfonwyd rhai yn y post mor bell â Chaerdydd a Llandeilo. Aeth un i groesawu babi newydd sbon, i roi gobaith i bâr a oedd i fod i briodi (ond wedi gorfod gohirio) a phostmon lleol i ddiolch am ei waith dros y Cyfnod Clo!
Erbyn hyn, mae Mair wedi creu 66 enfys i gyd, yn amrywio o rai mawr, rhai mini a rhai â phom-poms.
“Roedd hi’n braf gallu dod â bach o liw i gyfnod mor dywyll, ac yn rhywbeth i wneud gyda’r hwyr. ” meddai Mair. “Rwy’n crosio ers blynyddoedd, a ges i sioc i weld pa mor boblogaidd oedden nhw.”
Diolch yn fawr i Mair am godi calonnau ac am wasgaru lliw ar draws y pentref a’r ardal.