Mae Ann Jones, Fferm Foelallt, Llanddewi Brefi wedi derbyn y rôl o fod yn Gadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched. Mae’n aelod yng nghangen Llanddewi Brefi ers 1985 ac yn Nhregaron erbyn hyn hefyd. Mae’n aelod brwd, wedi bod yn Gadeirydd Cymru, yn is-gadeirydd Cenedlaethol ac mae wedi bod ar fwrdd NFWI ers sawl blwyddyn bellach.
Teithiodd Ann i Lundain ddydd Mawrth ar gyfer Cyfarfod Blynyddol Sefydliad y Merched, lle cafodd y fraint o wrando ar siaradwyr gwadd: Sophie, Iarlles Wessex; Barwnes Hale a’r Fonesig Cressida Dick. Ann oedd yn gyfrifol am dalu pleidlais o ddiolch i Cressida Dick am ei phresenoldeb, ac wrth siarad yn gyhoeddus, mae’n nodi ei bod hi wastad yn gorffen â ‘Diolch’ hyd yn oed mewn cyfarfodydd uniaith Saesneg fel hyn.
Eleni am y tro cyntaf, cafodd y cyfarfod ei ffrydio’n fyw, ac roedd cyd-aelodau a ffrindiau Ann i gyd wedi ymgynnull yn y Newinn yn Llanddewi i’w chefnogi.
“Roedd hyn yn golygu lot i fi. Roedd gwybod bod y merched nôl yn Llanddewi yn fy nghefnogi yn hwb enfawr.” meddai. “Rhaid cofio taw yma mae fy ngwreiddiau a taw fan hyn ddechreuodd popeth i fi.”
Ddydd Mercher dros Zoom, cafodd y pleidleisiau eu cyfrif, ac etholwyd Ann yn rhwydd i’r gadair. Cadeirio’r cyfarfod yn rhithiol bu’n rhaid iddi wneud wedyn wrth ethol gweddill y pwyllgor am y flwyddyn.
Yn rhan o’i dyletswyddau, bydd Ann yn cadeirio’r cyfarfodydd cenedlaethol, yn gyfrifol am oddeutu 40 aelod o staff, ond yn bennaf, yn llysgennad ac yn wyneb i Sefydliad y Merched yn Genedlaethol. Bydd yn cynrychioli’r 200,000 o aelodau mewn amrywiol ddigwyddiadau, ac yn barod, mae wedi derbyn gwahoddiad i fynychu dathliad 150 mlynedd Neuadd Frenhinol Albert. Anrhydedd enfawr.
Gofynnais i Ann, beth yw ei gweledigaeth a’i nod fel Cadeirydd?
“Yr her fwyaf i ni eleni fydd trio denu’r aelodau nôl at ei gilydd.” meddai. “Mae cyfarfod wyneb yn wyneb yn bwysig, ac ar ôl y cyfnod anodd yma, mae’n bwysig ein bod ni’n ailgydio yn yr elfen gymdeithasol. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig i flaenoriaethu cydweithio a ffrindiau bob amser- mae gormod o wrthdaro, beirniadaeth a drwgdeimlad yn y byd.”
Mae Cangen Llanddewi Brefi a Thregaron wedi ailddechrau yn barod. Mae Cangen Tregaron wedi cwrdd yn y neuadd gan gadw’r pellter cymdeithasol, a Changen Llanddewi wedi bod am de pnawn yng ngerddi hyfryd Yr Efail ac am wâc o gwmpas Cors Caron.
“Rwy’n awyddus hefyd i ddenu aelodau newydd. Pan symudais i Landdewi a phriodi yn groten ifanc, roedd y WI yn ffordd o ddod i adnabod y bobl leol a gwneud ffrindiau. Mae rhywbeth i bawb gyda’r WI.”
Mae’n hyfryd gweld aelod o gefn gwlad Ceredigion mewn rôl mor flaenllaw mewn sefydliad mor bwysig, ac mae Ann yn nodi:
“Rwy’n gobeithio fy mod i’n profi bod dim gwahaniaeth o le rydych chi’n dod nac o ba gefndir ydych chi, mae’n bosib cyrraedd y brig wrth roi 100% a gweithio’n galed. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig dathlu’r bobl gyffredin, does dim rhaid cael addysg a choleg bob amser. Mae’n profi hefyd bod cyfleoedd i bawb gyda Sefydliad y Merched.”
Mae Ann yn ddiolchgar iawn i’w ffrindiau yn y ddwy gangen leol am eu cefnogaeth bob amser ac i Ifan a’r teulu hefyd.
Pob lwc i chi Ann yn chwifio baner Bro Caron fel Cadeirydd Sefydliad y Merched yn genedlaethol!