Mae’r teimlad o weld yr hen bwll nofio yn cael ei ddymchwel yn un chwerw-felys. Trist iawn oedd clywed nad oedd y pwll yn mynd i ail-agor, ond mae’n newyddion da i’r Cylch Meithrin – adeilad newydd sbon i blant bach ein bro.
Mae’r adeilad wedi bod yn ganolbwynt i blant a phobl ifanc y fro ers blynyddoedd bellach. Arferai fod yn gantîn i’r Ysgol Uwchradd ac wrth bori drwy lyfr Can Mlynedd o Addysg Uwchradd yn Nhregaron, mae cofnodion yn nodi:
14th December, 1948:
Approved the expenditure of £4,310 sanctioned by the Ministry of Education for the erection of a kitchen and dining room for the school.
20th January, 1949:
Plans for a new canteen approved.
Felly cyn agor yr ysgol Uwchradd ‘newydd’ yn 1950, am gyfnod, byddai’r disgyblion yn croesi’r hewl o’r ‘hen ysgol’ er mwyn cael eu cinio yn y ffreutur yma. Yna, wrth gwrs, yn stwffio eu boliau ar ôl agor y ‘County School’ yn y safle presennol. Mae’n debyg bod Mrs Williams, yr ‘head cook’ ar y pryd, yn ‘gwc’ neis iawn, yn coginio bwyd ffein bob amser. Ei chydweithwyr oedd dwy ddynes leol arall, sef Mrs Edwards a Mrs Jones.
Troi’n bwll nofio wedyn wrth gwrs, ym Medi 1971. Eto yn yr un llyfr, mae’n nodi:
“Tregaron Pool is First in the County.” – Cambrian News, October, 1971.
Agorwyd gan yr Henadur Morgan Davies, Pont Llanio. Costiodd y cyfan o dan £10,000. Codwyd dros £3,000 yn lleol mewn boreau coffi a.y.b., £3,000 gan y Cyngor Sir, a chymorth oddi wrth Gymdeithas y Cyn-ddisgyblion, Cronfa Ymddiriedolaeth Pantyfedwen, a’r Cyngor Plwyf lleol. Yr athro nofio oedd Mr R. Cetta.
Yn anffodus, mae drysau’r pwll wedi bod ar gau nawr ers 2017.
Erbyn hyn, mae’r Cyngor Sir yn buddsoddi arian yn yr adeilad i’w drawsnewid yn ddwy ystafell fawr. Un ar gyfer yr Ysgol Feithrin ac un yn adeilad i Ysgol Henry Richard. Mae’r gwaith yn mynd i gostio dros £600,000, ac yn ddatblygiad cyffrous i’r ardal. Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau ac mae plant y Cylch Meithrin yn mwynhau gweld y JCB wrth ei waith bob dydd! Y gobaith yw agor drysau’r adeilad newydd erbyn mis Hydref.