You are on a great path Dr. Obotham, and it suits you well!
Yn ddiweddar, adroddwyd bod dros 1.5 miliwn o bobl yn dysgu Cymraeg ar draws y byd drwy’r Ap dysgu ieithoedd Duolingo.
Ond yn yr UDA, mae yna alwad am wersi Cymraeg mwy ffurfiol. Yn ymateb i’r alwad, mae Côr Cymry Gogledd America, a Chanolfan Madog ar gyfer astudiaethau Cymreig, a dwi’n cael y fraint o fod yn un o’r tiwtoriaid sy’n dysgu Cymraeg i Americanwyr.
Dwi’n dysgu o fy nesg ar dop y staer yma yn Llangeitho, am 9 o’r gloch yr hwyr fel arfer. Mae hyn oherwydd fod arfordir dwyreiniol yr UDA bum awr tu ôl ni yng Nghymru, ond gyda dysgwyr yn Pennsylvania, Ohio, Michigan, Kansas, Efrog Newydd, California, Washington, Minnesota, Illinois, Georgia, Missouri, New Jersey, Wisonsin, Deleaware, Gogledd Carolina ac Oregon, gall fod yn Fore da, Prynhawn da ac yn Noswaith dda wrth groesawu pawb i’r wers!
Rwyf wedi bod yn diwtor gyda Chôr Cymry Gogledd America ers mis Medi llynedd, a gyda chefnogaeth Y Ganolfan dysgu Cymraeg Cenedlaethol, mae tua 30 o aelodau’r côr yn dilyn y cwricwlwm lefel Mynediad cyfredol mewn gwersi wythnosol. Dwi’n gyfrifol am ddau o’r dosbarthiadau yma, gan hefyd gefnogi’r sesiynau Sgwrsio Uwch. Ac yn ystod tymor yr Hydref llynedd, mi wnaethom gwrdd yn rhithiol gyda dysgwyr lefel mynediad Y Wladfa i sgwrsio.
Ers Ionawr eleni, rwyf wedi ail-gydio yn fy rôl fel tiwtor Cymraeg gyda Chanolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig ym Mhrifysgol Rio Grande yn Ohio, UDA.
Treuliais ddwy flynedd yno yn gweithio fel Intern wrth astudio am fy ngradd meistr mewn addysg. Mae’n braf cael gweld wynebau cyfarwydd ar fy sgrin yn wythnosol ac er ein bod ni mond ychydig o wythnosau mewn, rydym wedi gorfod trefnu estyniad i’r cwrs wrth i’r dysgwyr fwynhau dysgu Cymraeg gymaint.
Mae’n rhaid i mi gyfaddef, pan eisteddais i lawr gyda’r ymgynghorydd gyrfaoedd tua diwedd fy amser fel disgybl yn Ysgol Uwchradd Tregaron, doedd dysgu Cymraeg i bobl Gogledd America ddim ar frig fy rhestr. Ond erbyn hyn, rwyf wrth fy modd yn cael rhannu’r iaith, a chwarae rhan yn nhaith ieithyddol dros 30 o bobl yng Ngogledd America.
Mae’r dysgwyr yn fy ysbrydoli i’n wythnosol, a diolch byth bod cyfrif Zoom yn rhatach na thocyn awyren ac yn llawer haws na chymudo yn ôl ac ymlaen!