gan
Enfys Hatcher Davies
Yn rhan o arlwy’r Eisteddfod AmGen eleni, cyflwynwyd darlith ddiddorol gan Yr Athro Geraint H Jenkins am ein bro.
Ambell ffaith ddifyr o’r ffilm am y Caroniaid a’r ardal…
- Roedd 11 tafarn yn nhref Tregaron yn 1820!
- Roedd sedd i 800 o bobl yng Nhapel Bwlchgwynt yn 1895 ac erbyn 1910, roedd 45 capel Methodistiaid a 45 ysgol Sul yng nghylch Tregaron.
- Roedd merched Tregaron yn enwog am fod yn “chwim eu tafod” ac yn “ffond o gario clecs!”
- Bu farw 6 baban yn iau na mis oed i Mary Richard! (Mam Henry Richard)
- Yn y flwyddyn 1891, roedd 99% o bobl yr ardal yn siarad Cymraeg.
Yn rhan o’r ddarlith, cewch ddysgu am hanes cynnar y dref a’r ardal: Banc y Ddafad Ddu, Cors Caron ac wrth gwrs, y bobl.
Joseph Jenkins, y swagman Cymreig; Cassie Davies, “Corwynt o ddynes;” ac wrth gwrs, Henry Richard, arwr mwyaf Tregaron.
Mae’r ddarlith hefyd yn tynnu sylw at rai unigolion na cheir eu lluniau yn y llyfrau hanes. Trigolion sy’n enwog am fod mewn trwbwl gyda heddlu’r dre. Gwyliwch i glywed am sawl aderyn brith!
Gwyliwch “Tref y mawn… Tref y mynydd” i ddysgu fwy am hanes Bro Caron.