Cylch Ti a Fi Cywion Caron

Galw uchel am sesiynau i fabis a phlant yn yr ardal.

Angharad Lloyd-Jones
gan Angharad Lloyd-Jones
IMG-20211125-WA0011
IMG-20211125-WA0013
IMG-20211125-WA0006
IMG-20211125-WA0012
IMG-20211125-WA0008
IMG-20211125-WA0010
IMG-20211125-WA0007
IMG-20211125-WA0003
IMG-20211125-WA0014

Dros y blynyddoedd, mae’r Mudiad Meithrin wedi bod yn cynnal sesiynau “Cylch Ti a Fi” i rieni, babis a phlant. Ond yn anffodus ar ôl y pandemig, mae prinder yng Ngheredigion.

Fel Mam i dri o blant, a’r un lleiaf wedi cael ei eni yng nghanol y pandemig, roeddwn yn teimlo ei fod e, a holl fabis, plant a rhieni’r ardal wedi colli allan ar adeg bwysig iawn o’u bywydau. Babis yn colli mas ar gwmni babanod eraill a rhieni’n colli’r elfen gymdeithasol hynny sydd mor mor bwysig!

Mae rhannu gofid, siarad a rhannu atgofion yn rhywbeth sy’n hynod werthfawr wrth fynychu sesiwn fel Cylch Ti a Fi.

I’r rhieni oedd angen y cysylltiad yna gyda mamau a thadau eraill, a’r plant bach sydd naill ai wedi eu geni cyn y pandemig, neu yng nghanol, roedd angen yr amser yma i chwarae gydag eraill eu hoedran nhw.

Mae’r Ganolfan Deuluol leol yn Nhregaron wedi bod ar gau oherwydd ‘cofid’ hefyd, sydd wedi gwneud y broses o gwrdd â theuluoedd yn anoddach. (Er bod sesiynau nawr yn cael eu cynnal yn y Neuadd Gymunedol ar rai diwrnodau o’r wythnos. )

Roedd hi’n bwysig, yn fy marn i, gallu rhoi fwy o ddewis a chyfleoedd i’r teuluoedd – ac yn amlwg, wrth y nifer o deuluoedd sydd wedi mynychu’r sesiynau hyd yn hyn, roedd yr eisiau yn fawr iawn.

Mae’r pandemig wedi cael effaith enfawr ar deuluoedd yn feddyliol ac emosiynol ac mae’n dangos pan mae’r teuluoedd yn trafaelu o Landdewi, Dregaron, Lledrod, Bronant a Llanafan, bod prinder sesiynau chwarae i blant yng Ngheredigion.

Yr ydym wedi bod yn ffodus iawn i gael llogi neuadd bentref Llanddewi Brefi bob bore dydd Gwener am ddwy awr o sesiwn, rhwng 9:15y.b a 11:15yb sydd yn cynnwys chwarae, crefftau ac wrth gwrs paned a sgwrs i’r rhieni. (sy’n hollbwysig ac yn reswm allweddol dros fynychu’r math hwn o ddigwyddiad.)

Diolchwn i’r mudiad am rai teganau ac i rieni’r ardal sydd hefyd wedi cyfrannu tuag at deganau ac adnoddau crefft.

Os am fwy o wybodaeth mae yna dudalen facebook “Cylch Ti a Fi Cywion Caron” lle gallwch weld lluniau o’r sesiynau ac unrhyw wybodaeth bellach.