Clecs Caron – Aled Morgan

Cyfweliad misol yn busnesa i fywyd person o Dregaron.  Y mis ’ma, Aled Morgan

Mared Rand Jones
gan Mared Rand Jones
Aled

Enw: Aled Morgan

Cartref:  Aberystwyth erbyn hyn, ond Hafod Wen, Pwllswyddog yn wreiddiol.

Teulu: Gwraig – Heledd, Moc Ifan (4 oed) a Bob Ifan (16 mis)

Gwaith: Athro yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Disgrifia dy hun mewn tri gair. 

Hapus, amyneddgar, tew

Unrhyw hoff atgof plentyndod.  

Ar y beic rownd Pwllswyddog gyda ffrindie, neu’n chwarae pêl droed yn y parc yn ystod yr haf, a’r gêm yn cario ‘mlan nes ei bod hi’n rhy dywyll i weld y bêl.

Hoff raglen deledu pan oeddet yn blentyn.     

O’n i’n joio Hafoc. A Thundercats.

Y peth pwysicaf a ddysgest yn blentyn.

I fod yn garedig i bawb.

Taset ti’n gallu mynd nôl mewn amser, beth fyddet ti’n dweud wrth dy hun yn 16 oed?

Dihuna lan!

Beth oedd y peth ofnadwy wnes ti i gael row gan rywun?

Ges i lot o rows yn tyfu lan. Yr un sy’n aros yn y cof fwya’ odd un ges i ‘da mam pan on i’n adolygu ar gyfer TGAU. Edrychodd hi yn y llyfr Physics a gweld bod e’n wag. ‘On i heb fod yn cymryd nodiade. Fi’n beio’r athro. Ath hi’n nyts. ‘On i biti wherthin achos o’dd hi di colli control ar ei hunan druan, ond fi’n credu bydde fe ’di ’neud pethe’n waeth os fydden i wedi wherthin. Druan.

Pryd a ble wyt ti fwyaf hapus?

Unrhyw le gyda’r bois. Traeth, coedwig, parc (cyn belled bo’ dim plant ysgol ‘na).

Beth yw dy arbenigedd?

Yr unig beth allai ’neud yn eitha’ da yw ‘whare piano.

Sut mae’r Coronafeirws wedi effeithio dy fywyd di?

Fel athro, o’dd e’n wahanol trio dysgu o adre. Do’n i ddim yn ei gasau e. I weud y gwir, do’dd e ddim y peth gwaetha’ i fi, digwydd bod, achos odd e fel rhyw gyfnod hirach o paternity le ges i fwy o amser i dreulio gyda Bob ar ôl iddo fe gael ei eni.

Y peth gorau am yr ardal hon?

Gwyrddni. Tawelwch. Dim teimlad o bobol yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?

Dyw hyn ddim yn berthnasol rhagor, ond pan on i’n ifancach ac yn straffaglu adre o’r Llew Coch am 2 y bore, sen i ‘di talu lot o arian i ga’l pizza neu fyrgyr neu kebab bach slei.

Beth wyt ti’n gwneud yn dy amser hamdden?

Ni’n mynd am lot o wâcs – ma’ Aber yn dda ar gyfer hynny. Y peth wi’n lico neud fwya yw gwylio pêl droed. Allen i ’neud hynny drw’r dydd. Fi’n joio peinto darn o gelf hefyd os dwi’n cal yr amser.

Pa fath o berson sy’n mynd o dan dy groen?

Snobs. Galla i ddim godde pobol sy’n meddwl bo nhw’n well na phobol erill.

Pe byddet yn ennill y loteri, sut fyddet yn gwario?

Ambell dŷ gwylie bach, un yn yr Eidal, Llunden, Ffrainc falle. A bydden i’n dwlu prynu Ysgol Gynradd Tregaron achos ma’ syniad ‘da fi am fusnes, ond sai moyn gweud beth yw e rhag ofan i rywun ddwyn y syniad!

Beth sy’n codi ofn arnat?

Sai’n lico bod mas yn bell yn y môr, a ddim yn gwbod beth sydd oddi tano fi.

Pryd es ti’n grac ddiwethaf?

Sai’n gweiddi yn aml. Ond ma’ dysgu ym mlwyddyn 1 yn gallu neud fi’n go grac.

Beth yw dy gyfrinach i gadw’n bert / i gadw’n gryf?

Ma blew yn cwato’r rhan fwya o ‘ngwyneb i, so fi’n safio ar moisturiser, ond ma gwd conditioner yn cadw’r gwallt yn sofft.

Yr eiliad a newidiodd dy fywyd?

Dyw pethe heb fod yr un peth ers i Moc gael ei eni. Sai’n gallu cofio shwt o’dd pethe cyn hynny.

Beth yw dy hoff air?

Joio

Pwy yw’r person enwocaf ar dy ffôn symudol?

Dylan Garner!

Beth yw dy ddiod arferol?

Fi’n joio coffi. Captain Morgan os ydw i wedi ca’l digon ar y peints.

Beth yw dy hoff bryd o fwyd?

Fi’n lico bwyd Mecsicanaidd. Fajitas, quesadillas, burritos. Joio cawl hefyd. A pizza. A gwd byrgyr.

Sut wyt ti’n ymlacio?

Gwylio pêl droed.

Pa wefan wyt ti’n ymweld â hi fwyaf aml?

Sky Sports

Eich gwyliau gorau?

Dwi ‘di cal sawl gwylie grêt. Odd Sorrento yn rywle ffantastic, a Mecsico hefyd, ond y gore o’dd y mis dreulion ni yn teithio America. New York, wedyn pigo car lan a dreifo ar hyd Route 66 am bythefnos yr holl ffordd i Vegas, wedyn San Francisco a theithio lawr i Los Angeles, cyn hedfan i Toronto a Niagara Falls. Es i ‘nôl i America mewn rhai blynyddoedd i ddreifo yn y Deep South, yn llefydd fel Atlanta, Nashville, Memphis a New Orleans ond y trip cynta i America oedd y gorau.

Mae Aled wedi enwebu Sara Stephens ar gyfer mis nesaf.