Hir yw pob aros, ac mae pobl Ceredigion wedi ffeindio eu hunain mewn sefyllfa gwbl unigryw. Dydy hyn erioed wedi digwydd o’r blaen. Do, fe ganslwyd yr Eisteddfod yn 1914 adeg y rhyfel byd cyntaf, ond ers hynny mae ‘na Eisteddfod wedi ei chynnal bob blwyddyn.
Doedd y cyhoeddiad ddim yn sioc. Gyda’r Urdd eisoes wedi cyhoeddi na fyddai modd cynnal yr Eisteddfod ym mis Mai, roedd hi’n annhebygol iawn y byddai modd cynnal y Brifwyl hefyd yn ei ffurf draddodiadol.
Ma’ ’na deimlad o siom. Er nad oedd y cyhoeddiad yn sioc, mae’n sicr yn siom i’r ardal hon. Does dim amheuaeth mai’r Eisteddfod yw’r digwyddiad mwyaf i Dregaron ei weld erioed. Dyw’r Eisteddfod erioed wedi bod yma o’r blaen ac mae’n annhebygol o ddod eto am amser hir iawn, iawn.
Yn ôl Megan Dafydd a Zara Evans, Prif Swyddogion Ysgol Henry Richard, bydd symud yr Eisteddfod ymlaen yn golygu efallai y byddan nhw’n colli cyfleoedd:
“Dwi’n credu bod pawb o’r un oed â ni yn yr ysgol yn siomedig gan mai un o’r uchafbwyntiau i ni yn Ysgol Henry Richard oedd y cysylltiad agos â’r Eisteddfod. Mae hynny’n gyfle arbennig, ond erbyn i’r Eisteddfod gyrraedd nawr byddwn ni wedi gadael yr ysgol a falle na fydd cymaint o gyfleodd ar gael i ni. Ond dwi’n deall yn iawn bod angen cadw pawb yn ddiogel a dyna’r peth pwysicaf. Dwi’n siŵr y byddwn ni gyd yn gwneud popeth allwn ni i gynnal y cyffro – oleia’ erbyn hynny bydda i a fy ffrindiau yn ddigon hen i fynd i Faes B!” meddai Megan.
“Ry’n ni’n haeddu Eisteddfod lwyddiannus, yn union fel ry’n ni wedi rhagweld. Mae pobl wedi gweithio’n galed iawn i godi arian a bydd aros blwyddyn arall yn rhoi cyfle i ni baratoi a chynllunio ac addasu” meddai Zara.
Roedd popeth yn barod. Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi bwrw’r targed ariannol, roedd y maes yn barod i’r gweithwyr, y corau wedi dechrau ymarfer ac roedd buzz arbennig i’w deimlo drwy’r ardal.
Bydd Tregaron yn sicr o fynd lawr mewn hanes. Mae’n cymryd criw o bobl arbennig iawn i ddysgu aros, i ddysgu bod yn amyneddgar ac i gadw’r ffydd. Ac mae pobl Tregaron a’r ardal yn siŵr o gadw’r ffydd a chadw’n bositif.
“Dy ni ddim eisiau cael ein cofio fel Eisteddfod y feirws” meddai David Edwards, neu Dai John i bawb sy’n ei nabod fel un o hoelion wyth Tregaron.
“Dy ni ddim chwaith eisiau rhyw hanner Eisteddfod – fyddai hynny ddim yn deg ar yr ardal. Mae’n rhaid cofio hefyd am yr holl bartïon a’r corau sydd wedi methu cyfarfod ac mae’n rhaid i ni fod yn ofalus o ran gadael ymwelwyr i mewn i Dregaron. Aros fyddai orau yn sicr.”
Yn ôl y Cynghorydd Catherine Hughes sy’n Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Leol Tregaron, mae popeth da yn werth aros amdano:
“Roedd 2021 i fod yn well na 2020 ond mae’n edrych yn debyg taw 2022 bydd y flwyddyn pryd gallwn edrych ymlaen at gynnal Eisteddfod yn Nhregaron. Rydym am groesawu pawb i Geredigion pan mae’n saff i wneud hynny gan edrych ymlaen at gystadlu o’r radd uchaf a chael y cyfle i gymdeithasu gyda’n gilydd ar y maes.”
Mae pob Eisteddfod yn unigryw. Ac mae pob Eisteddfod yn gofiadwy yn ei ffurf ei hun. Ond does dim amheuaeth, pan ddaw hi, bydd Eisteddfod Ceredigion yn Eisteddfod a hanner.
Wedi dwy flynedd o saib, bydd Cymry ben baladr yn barod am Eisteddfod a does dim dwywaith mai Tregaron yw’r lle i gamu i’r adwy.
Dyw aros ddim yn hawdd.
Ond am nawr, fe wnawn ni barhau i aros gydag urddas.