Mae golwg360 wedi cael datganiad gan Gartref Gofal Bryntirion, yn Nhregaron, sy’n dweud eu bod nhw’n bwriadu gwneud asesiadau risg trylwyr cyn rhoi caniatâd i ymwelwyr fynychu’r Cartref.
Ddoe (27 Awst), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod hawl gan bobol ymweld â pherthnasau a ffrindiau mewn cartrefi gofal yng Nghymru o heddiw (28 Awst) ymlaen, ddiwrnod yn gynharach na’r disgwyl.
Bydd ymweliadau’n destun rheolaethau llym i helpu i atal trosglwyddiad y coronafeirws.
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, mai mater i bob sefydliad unigol fyddai penderfynu pryd yn union y byddent yn gallu dechrau hwyluso ymweliadau’n ddiogel eto.
“Bydd y cadarnhad hwn yn gyhoeddiad i’w groesawu’n fawr i gynifer ledled Cymru,” meddai Mr Gething ddoe (27 Awst).
“Bu cyfyngu ar fynediad i gartrefi gofal yn gwbl angenrheidiol i amddiffyn rhai o’n pobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau rhag Covid-19 ond rydym yn llwyr werthfawrogi’r effaith y mae hyn wedi’i chael ar breswylwyr a’u hanwyliaid.
“O ystyried y manteision i les preswylwyr, rwy’n gobeithio y gall llawer o gartrefi ddiweddaru eu gweithdrefnau’n gyflym er mwyn gallu cynnal ymweliadau dan do yn ddiogel.”
Mae’r newid i’r rheoliadau hefyd yn berthnasol i hosbisau a llety diogel i blant a phobl ifanc.
“Bydd angen gwneud asesiadau risg ac ati cyn meddwl am ailagor i ymwelwyr,” meddai’r datganiad.