Dawnsathon: Ni Yw Y Byd

Codi arian drwy ddawnsio – cefnogwch yr apêl!

Anna ap Robert
gan Anna ap Robert

Diolch i Lleucu Meinir a chriw TarianCymru – Ni yw y Byd dw i wedi derbyn her newydd! Dw i’n mynd i gymryd rhan mewn dawnsathon 12 awr. Byddaf yn dawnsio am awr gyfan heb stop rhwng 9 a 10yh nos Wener 31-7-2020. Byddaf yn ffrydio yn fyw ar Facebook hefyd fel y gallwch wylio ac ymuno os hoffech chi.

Y rheswm pam dw i am wneud hyn yw oherwydd yn ystod yr argyfwng Covid 19 dw i wedi sylweddoli mwy nag erioed pa mor ffodus ydw i a fy nheulu a’m ffrindiau o’i gymharu â nifer fawr o bobl ar draws y byd. Yng nghanol rhuthr bywyd mae rhywun yn dueddol o anghofio cyfri eu bendithion a gwir werthfawrogi yr hyn sydd gyda ni. Pethau yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol fel dŵr glân, bwyd, to uwch ein pennau ac wrth gwrs y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Heb y pethau yma byddai ein bywydau yn wahanol iawn. Teimlais fod gen i rôl i’w chymryd i helpu a pha well ffordd na chodi arian trwy ddawnsio! Dyma ychydig o gefndir y prosiect:

“Bwriad prosiect Ni Yw Y Byd yw codi arian a chefnogi gwaith dyngarol rhyngwladol sy’n mynd i’r afael â’r coronafirws yn rhai o wledydd tlotaf y byd gan ddechrau’r mis hwn gyda gwersyll ffoaduriaid Rohingya yn Cox’s Basar ym Mangladesh.

Dywed Razia Khatun, menyw sy’n byw yng ngwersyll ffoaduriaid yn Cox’s Basar ac sy’n gwneud masgiau yn ogystal â hyfforddi menywod eraill i wneud masgiau:

“Fe wnaethom ffoi o Myanmar er mwyn goroesi ac rydym yn ei chael hi’n anodd yma, ond mi fydd Covid-19 yn cymryd ein bywydau, os na wnawn ni ymgymryd â mesurau yn erbyn ymledu’r firws, oherwydd does gennym ni ddim llawer o opsiynau er mwyn cadw pellter cymdeithasol a chorfforol yn y gwersyll.”

Wrth i’r firws ymledu drwy’r byd, mae’r cymunedau sy’n byw mewn tlodi eithafol dan fygythiad enfawr. Dyma gymunedau sydd eisoes yn byw â diffyg dŵr, bwyd a gofal iechyd. Mae rhai wedi’u gorfodi o’u cartrefi ac yn byw â chyflyrau iechyd megis HIV.”

Os hoffech chi fy noddi Cliciwch YMA.

Cefnogwch apêl newydd Tarian Cymru: Ni Yw Y Byd trwy noddi ni yn y Dawnsathon!

31/07/2020 : 11am – 11pm

12 awr o ddawnsio i godi arian i Wersyll Ffoaduriaid Rohingya, Bangladesh. Bydd eich arian yn mynd: 

*I godi gorsafoedd golchi dwylo

*I ddosbarthu citiau hylendid

*I hyfforddi gweithwyr iechyd

Diolch enfawr i chi am eich cefnogaeth. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn dawnsio am awr gyfan heb stopio!!!!

Ewch i dudalen facebook “Tarian Cymru – Ni Yw Y Byd” i weld rhai o’r dawnswyr yn streamio’n fyw ??