Mae ymchwil gan Brifysgol Bangor wedi canfod bod ffermydd defaid a gwartheg Cymru ymhlith y gorau yn y byd am greu swm isel o nwyon tŷ gwydr.
Dyma’r nwyon sy’n cael y bai am achosi cynhesu byd eang a’r argyfwng newid hinsawdd.
Ond mae allyriadau ffermydd Cymru o nwyon tŷ gwydr yn isel gan fod y gwartheg a’r ŵyn wedi eu magu’n bennaf mewn amgylchiadau naturiol sy’n dibynnu ar laswellt a glaw, yn hytrach na bwyd anifeiliaid wedi ei fewnforio.
Mae ffermwyr ucheldir y wlad wedi croesawu’r astudiaeth, er nad yw’n syndod iddyn nhw gan eu bod wedi pregethu’r neges bwysig hon ers blynyddoedd.
Mae addysgu plant ifanc yn hollbwysig, meddai’r cyflwynydd a’r ffermwr Ifan Evans Jones, er mwyn diwallu unrhyw ragbydiaethau sy’n awgrymu’r gwrthwyneb.
Cynefinoedd cynaliadwy
Roedd ymchwilwyr yn mesur allyriadau carbon a ryddhawyd trwy gynhyrchu cig oen ac eidion mewn 20 o ffermydd yng Nghymru, ond hefyd y carbon a amsugnwyd o’r awyr trwy dechnegau rheoli tir a ddefnyddir gan ffermwyr.
Maen nhw wedi canfod fod gwartheg bîff yn gyfrifol am 11-16kg o allyriadau cyfwerth â CO2 y cilo ar gyfartaledd, o’i gymharu ag astudiaethau blaenorol sy’n awgrymu cyfartaledd byd-eang o oddeutu 37kg o allyriadau cyfwerth â CO2 y cilo.
Dangosodd yr astudiaeth hefyd bod defaid ac ŵyn yn gysylltiedig â 10-13kg o allyriadau cyfwerth â CO2, sydd unwaith eto yn gosod Cymru ymhlith y ffigurau isaf o blith yr astudiaethau a gynhaliwyd mewn rhannau eraill o’r byd.
Mae’r ymchwil yn awgrymu y gall atafaelu carbon – y broses lle mae carbon deuocsid yn cael ei amsugno’n naturiol o’r atmosffer gan bridd, planhigion a choed – gael ei hyrwyddo gan dechnegau rheoli tir ffermwyr, a all gael effaith gadarnhaol sylweddol ar allyriadau net.
Cafodd ffermydd ucheldir yr astudiaeth effaith amgylcheddol is na’r disgwyl, gan awgrymu bod lleoliadau bryniog a glawog fel Cymru, lle mae 81% o dir fferm yn laswelltir parhaol, ymhlith y cynefinoedd mwyaf cynaliadwy i gynhyrchu cig.
Newyddion da o lawenydd mawr… ond ddim yn syndod
Mewn ymateb i ganfyddiadau’r astudiaeth, dywedodd Ifan Jones Evans, y cyflwynydd sy’n ffermio yn ardal Pont-rhyd-y-groes:
“Mae hyn yn newyddion calanogol ac yn newyddion da o lawenydd mawr i ffermwyr Cymru… ond dyw e ddim yn syndod chwaith.
“Mae o’n rhywbeth mae ffermwyr Cymru yn ymwybodol ohono fe ac yn rhywbeth rydan ni wedi bod yn pregethu ers blynyddoedd.
“Mae yna lot o bobl wedi bod yn beio amaethyddiaeth yn gyffredinol… ond mae fe’n rhywbeth rydan ni wedi bod yn sôn am – bod y math o ffermio sy’n digwydd yma yng Nghymru – mae e yn ffordd gynaliadwy o gynhyrchu cig coch.
“Does dim dwywaith amdani.”
Er ei fod yn cydnabod nad yw’r sector amaethyddol yng Nghymru yn berffaith, a bod dal lle i wella o ran parchu’r amgylchedd, dywedodd ein bod “ar flaen y gad” pan mae’n dod i gynhyrchu cig coch o safon, mewn modd cynaliadwy.
“Angen rhannu’r efengyl”
Mae Ifan Jones Evans o’r farn bod y cyhoedd yn fwy parod i gefnogi cynnyrch lleol.
“Dw i wedi gweld hyn fy hunan yn ystod y cyfnod sydd wedi bod ohoni,” meddai, “mae pobl wedi bod yn siopa yn lleol.
“Maen nhw wedi gweld dros eu hunain bod ansawdd y cig efallai’n well, a gobeithio bydd llawer ohonynt yn parhau i siopa yn lleol a chefnogi ffermwyr lleol.”
Dywedodd bod addysgu yn “hollbwysig” i fagu gwell dealltwriaeth o brosesau bwyd.
“Mae angen rhannu’r efengyl a sôn wrth bobl: ‘Edrychwch, rydan ni’n cynhyrchu cig o safon, mewn ffordd hollol gynaliadwy, hollol naturiol sydd yn dda ac yn iachus i chi os ydych chi’n bwyta bob dim fel rhan o ddiet cytbwys a chymedrol.”
“Rhai o’r systemau ffermio mwyaf cynaliadwy yn y byd”
Dywedodd Dr Prysor Williams, Uwch-Ddarlithydd mewn rheolaeth amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor:
“Mae astudiaeth Prifysgol Bangor yn defnyddio’r dulliau diweddaraf a gymeradwywyd yn rhyngwladol i astudio allyriadau ac atafaelu a storio carbon, gan roi golwg werthfawr inni o’r hyn y mae ffermydd Cymru eisoes yn ei wneud yn dda o ran cynaliadwyedd, a lle y gellir gwneud gwelliannau pellach.
“Mae olion traed carbon llawer o’r ffermydd Cymreig dethol hyn ymhlith yr isaf yr adroddwyd ar gyfer gwledydd sy’n cynhyrchu cig oen ac eidion.
Er ein bod yn cydnabod bod anawsterau wrth gymharu astudiaethau oherwydd gwahaniaethau yn y dulliau i gyfrifo’r ôl-troed, mae ein canlyniadau’n dangos bod gan gynhyrchwyr cig oen ac eidion o Gymru’r potensial i fod yn rhai o’r systemau ffermio mwyaf cynaliadwy yn y byd.”
“Cymru eisoes yn arwain y ffordd”
Mae Cymru ar flaen y gad gyda materion amgylcheddol, meddai Gwyn Howells, Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru.
“Mae’r argyfwng hinsawdd sy’n ein hwynebu yn un brys ac ar raddfa fyd-eang. Yr ateb yw peidio â rhoi’r gorau i fwyta cig coch, ond dewis cig oen ac eidion a gynhyrchir yn gynaliadwy.
“Mae Cymru eisoes yn arwain y ffordd o ran helpu’r amgylchedd, ond rydym yn gwybod bod llawer mwy i’w wneud i hyrwyddo’r cyfraniad cadarnhaol y gall amaethyddiaeth da byw Cymru ei wneud tuag at ateb yr her hinsawdd.
“Dyna pam rydyn ni’n gweithio i leihau ein hallyriadau amaethyddol cyffredinol 7.5% yn y blynyddoedd i ddod, er mwyn helpu Cymru i gyrraedd Net Zero erbyn 2050.”