‘Rho imi Nerth’ yn rhoi nerth i achosion da

Cyfrol lwyddiannus Beti Griffiths yn codi arian at elusennau

Nest Jenkins
gan Nest Jenkins
Cyfrol Beti Griffiths, Rho imi Nerth.
Parti Camddwr yn perfformio yn lansiad y gyfrol llynedd
Gwesty'r Marine yn Aberystwyth yn orlawn.

Mae Beti Griffiths wedi penderfynu rhoi holl elw ei chyfrol i elusennau sy’n agos at ei chalon.  

Lansiwyd ‘Rho imi Nerth’ fis Mai y llynedd ac mae’n gofnod o fywyd Beti Griffiths fel dynes weithgar a phrysur yn ei chymuned.

Mor boblogaidd oedd y gyfrol nes y bu’n rhaid mynd am ailargraffiad yn syth, a bellach mae dros fil o gopïau wedi’u hargraffu gan Wasg y Bwthyn.

Ar ôl blwyddyn o werthu, mae’r awdures wedi penderfynu cyflwyno’r holl elw i achosion da, gan ddewis elusennau oedd yn agos iawn at ei diweddar frodyr. 

“Fel y gwŷr y cyfarwydd roedd gen i dri brawd, William, Edward ac Isaac ond collwyd y tri yn gymharol ifanc ac mae’r gwacter yn llethol ar adegau”, meddai Beti.  

“Bu ysgrifennu’r bennod ‘Y Tri Brawd’ yn galed ond o ganlyniad i ymateb anrhydeddus pobl, ac i gofio’n deilwng am y tri, penderfynais rannu elw sylweddol y gyfrol.” 

Yn ôl Beti, dewisodd elusennau fyddai’n “agos at galonnau” ei brodyr. Gyda William ac Isaac wedi derbyn gofal yn Ysbyty Bronglais, bydd yr Uned Chemotherapi yn derbyn cyfraniad sylweddol.  

Dewisodd roi cyfran i Ganolfan y Bont, Llambed, i gofio am ei brawd Edward. Treuliodd flynyddoedd hapus yn gweithio i gwmni Morris yn siop Llanilar ac mae Gruff, mab Prys ‘y Siop’, yn derbyn addysg arbennig yn y ganolfan. 

Yn olaf, aiff swm teilwng i Ysbytai’r Brifysgol a Felindre Caerdydd gan fod Beti ei hun “wedi profi eu gofal a’u consyrn ar hyd y blynyddoedd”. 

Bydd yn cyflwyno’r sieciau pan fydd canllawiau’r Llywodraeth yn caniatáu hynny. 

“Mae’n llyfr annwyl iawn – fel Beti ei hun”

Yn wreiddiol o Riwfallen yn Lledrod, mae Beti yn byw yng Nghwm Aur, Llanilar ers blynyddoedd bellach. Mae’n hoelen wyth i’w chymuned; yn gyn-brifathrawes, yn bregethwraig, yn ynad heddwch ac yn awdures brysur. Mae’r gyfrol yn gofnod o fywyd cefn gwlad Ceredigion a chyfraniad gwerthfawr Beti i’w hardal.

Cynhaliwyd y lansiad yng Ngwesty’r Marine, Aberystwyth llynedd, gyda’r lle dan ei sang. Dywedodd Beti i’r noson fod yn un “fythgofiadwy ac emosiynol” gyda rhywun yn meddwl “mai Madonna oedd yna wedi gweld y fath dyrfa!”

Doedd dim syndod i olygydd y gyfrol, Marred Glynn Jones, fod y llyfr wedi bod mor boblogaidd.

“Dwi’n meddwl bod personoliaeth Beti, a’r hyn mae wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd wedi cyfrannu at boblogrwydd y gyfrol. Mae’n llyfr annwyl iawn – fel Beti ei hun – ac yn rhoi darlun i ni o gymuned a chymdeithas glos”.

Gyda’r Nadolig yn agosáu, dyma anrheg a fydd yn rhoi pleser ac yn cyfrannu at achosion da. Mewn cyfnod anodd, efallai bod ei theitl ‘Rho Imi Nerth’ yn fwy pwerus nag erioed.