Traddodiadau’r Ystwyll
Mae’r Nadolig a dathliadau’r flwyddyn newydd wedi mynd heibio ac erbyn hyn mae pawb yn ôl yn eu rhigol. Mae’r diwrnod byrraf wedi pasio ac mae cam ceiliog tuag at oleuni’r Gwanwyn bob nos. Serch hynny, mae hi dal yn dywyll wrth adael i’r gwaith a chyn cyrraedd adref. Hen gyfnod rhyfedd yw cyfnod yr Ystwyll.
Wedi dweud hyn, mae’n gyfnod pwysig dros ben i ni, yn enwedig yn y gwledydd Celtaidd ac mae yna nifer o draddodiadau diddorol sydd yn adlewyrchu hyn. Mae’n debyg fod hyn yn rhannol gysylltiedig gydag arferion dilyn yr hen galendr Iwlaidd, oedd yn dathlu dydd Calan ar y 13eg o Ionawr, ac fel y gwyddom, mae hyn yn dal i ddigwydd yng Nghwm Gwaun a rhai ardaloedd eraill.
I’r gogledd, yn yr Alban, ceir Hogmanay, wrth gwrs, ond hefyd ceir dathliad y bardd cenedlaethol, Robert Burns. Mae Noson Burns yn digwydd ar y 25ain o Ionawr, ac yn dathlu cyfraniad helaeth y bardd a’r casglwr alawon enwog hwn. Does dim syndod, efallai, fod Noson Burns yn cwympo ar yr un diwrnod â Gŵyl nawddsant y cariadon yma yng Nghymru, Santes Dwynwen, gyda chaneuon fel My Love is Like a Red Red Rose yn eiddo iddo.
I’r gorllewin, yn Iwerddon, ceir Nollaig na Mban, sef “Nadolig y Gwragedd” ar y 6ed o Ionawr, sef Gŵyl Ystwyll. Dyma draddodiad hynod ddiddorol lle daw cyfle’r gwragedd i eistedd yn ôl a mwynhau diwrnod o wledda (gŵydd yn ôl traddodiad) a thro’r dynion i baratoi’r cinio a gweini arnynt. Dyma arwydd, efallai, o ba mor oleuedig oedd cymdeithas y Celtiaid.
Yna i gyfeiriad y dwyrain Celtaidd, yng Nghymru, ceir llu o draddodiadau, a rhai digon rhyfedd, sydd yn nodi cyfnod yr Ystwyll. Dathlwn gyda’r Fari Lwyd wrth iddi fynd o dŷ i dŷ yn “pwnco” a mynnu lluniaeth, cenir Calennig ar y 13eg o Ionawr mewn rhai ardaloedd (yn ogystal â’r 1af), ac wrth gwrs, mae’n gyfnod y gwasanaethau Plygain. Mae’r plygeiniau yn dechrau digwydd yng nghyfnod yr Adfent, ac yn parhau dros yr ŵyl a thrwy gydol mis Ionawr. Mae Plygain Lledrod, er enghraifft, sef yr olaf o’r flwyddyn, ar ddydd Llun olaf mis Ionawr!
Mae’r tebygrwydd a’r gorgyffwrdd yn ein traddodiadau Celtaidd, a cheir rhai tebyg yng Nghernyw, Llydaw ac Ynys Manaw, yn amlygu’r themâu mwyaf pwysig sydd yn llinyn drwy’r arferion yma sef gobaith, dechrau newydd, a chyfeillgarwch. Robert Burns sy’n mynnu’r gair olaf, trwy gyfieithiad ardderchog Ieuan Glan Geirionnydd o’r gân fythol, Auld Lang Syne;
Er troion byd,
Ei wên a’i wg,
A llawer dyrys hynt,
Tra melys ydyw galw i gof
Yr hen amser gynt.
Er mwyn yr amser gynt, fy ffrind,
Yr hen amser gynt,
Ni wnawn yn llawen heno er mwyn
Yr hen amser gynt.
Ar hyd y meysydd clywid sain
Ein hadlais gyda’r gwynt
Tra’n dilyn ein diniwed gamp,
Yr hen amser gynt.
Dod law mewn llaw, fy nghyfaill llon,
Aed gofal byd gan wynt;
Ni wnawn yn llawen heno er mwyn
Yr hen amser gynt.