Plygain Lledrod 2025

Gwasanaeth Plygain yng Nghapel Rhydlwyd, Lledrod

gan Efan Williams
IMG_4028

Cynhaliwyd trydydd Gwasanaeth Plygain Lledrod yng Nghapel Rhydlwyd ar nos Lun 27 Ionawr. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol, gyda’r capel dan ei sang. Daeth y gymuned oll ynghyd i baratoi’r capel gan addurno a pharatoi bwyd a daeth carolwyr o bell ac agos atom unwaith yn rhagor.

Agorwyd y noson gan Efan Williams, Wyre View. Croesawodd pawb am ddod allan a diolchodd am bob cefnogaeth i’r blygain, sydd erbyn hyn wedi ennill ei blwyf. Canwyd y garol gynulleidfaol gyntaf, sef Wele Cawsom y Meseia, gyda Meinir Jenkins, Ynysforgan wrth y piano. Yna cafwyd gweddi bwrpasol gan Beti Griffiths, Rhiwfallen gynt, darlleniad gan Ioan Williams, Y Gwyndy, a chyhoeddodd Beti’r blygain yn agored.

Yna daeth tro’r carolwyr i ddod i fyny i’r sêt fawr i gyflwyno carol. Roedd amrywiaeth eang o garolwyr wedi dod atom o bell ac agos, yn bartïon, triawdau ac unigolion. Cafwyd deg eitem i gyd a phob un yn cyfleu naws unigryw’r traddodiad i’r dim. Hyfryd oedd gweld amrywiaeth o garolwyr wedi teithio i ddod atom, ond hefyd roedd yn braf iawn fod blas lleol ar nifer o’r eitemau.

Canwyd carol arall gan y gynulleidfa wedyn cyn symud ymlaen i’r ail rownd o garolau. Yn ystod y garol gynulleidfaol olaf, gwnaethpwyd casgliad a chodwyd £300 tuag at Hosbis HAHAV ym Mhenparcau. Ymunodd y carolwyr i gyd gyda’i gilydd i ganu Carol y Swper ar y diwedd, cyn i’r trigolion lleol ddarparu te a bwyd blasus i bawb oedd wedi dod. Cafwyd gwledd a hanner!

Ymfalchïwn fel cymuned for Plygain Lledrod wedi bod yn llwyddiant mawr unwaith eto. Diolchwn i bawb a helpodd gyda’r paratoadau, i’r carolwyr am ddod atom a chyfrannu mor wych at y noson, ac i’r gynulleidfa am droi allan o bob cwr o’r ardaloedd yma i’n cefnogi. Welwn ni chi gyd y flwyddyn nesaf!

I ti’r agorwyd ffynnon a ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn yn Salmon, fel yr wyt, fel yr wyt,
Gan hynny, tyrd yn brydlon, fel yr wyt.

Dweud eich dweud