Noson Gymdeithasol y Barcud

Noson hwyliog a chartrefol yn Nhafarn y Bont, Bronant yng nghwmni Bois y Rhedyn

gan Efan Williams
5
6-2
7

Cynhaliwyd noson gymdeithasol papur bro Y Barcud yn Nhafarn y Bont, Bronant ar nos Wener 17 Ionawr.

Cawsom noson i’w chofio gydag adloniant ardderchog gan Fois y Rhedyn, y parti meibion o ardal Llanddewi Brefi, gyda chaneuon hyfryd, digon o jôcs a sgetsys cofiadwy.

Arweiniwyd y noson yn ei ffordd graenus, arferol, gan gadeirydd pwyllgor y Barcud, John Meredith. Darllenodd yr ysgrifennydd, Bethan Hopkins-Williams, araith a gyflwynwyd gan lywydd y noson, sef John Meurig Edwards, Aberhonddu, gynt o Bontrhydygroes, a oedd yn methu bod yn bresennol ar y noson, a diolchwyd ef am ei rodd hael.

Tynnwyd raffl a’r clwb cant ar y noson, ac roedd cyfle i ymaelodi neu ail-ymaelodi â’r clwb ar y noson.

Talwyd diolchiadau gan Peredur Evans, gan ddiolch i bawb fuodd yn rhan o drefnu’r noson, i Fois y Rhedyn am yr adloniant, ac i Dafarn y Bont, Bronant am ein croesawu i’r lleoliad cysurus.

Hir oes i bapur bro’r Barcud;

Papur braf yw’r papur bro,

Tlotach cymuned hebddo.

Dweud eich dweud