Cynhaliwyd noson hwyliog iawn yn festri Capel Bronant ar nos Fercher 22 Ionawr. Daeth tyrfa dda ynghyd ar y noson i ddathlu’r Hen Galan a dysgu rhagor am ein traddodiadau hynafol ar yr adeg hon o’r flwyddyn yng Nghymru.
Croesawyd pawb i’r noson gan Eirlys Morgan a Gesuine Martin, oedd yn rhannu dyletswyddau arwain y noson. Canwyd carol Nadolig er mwyn cynhesu, yna cyflwynwyd rhai o draddodiadau’r hen galan i’r gynulleidfa. Yn gyntaf trafodwyd traddodiad y gwasanaethau plygain, a chafwyd blas o ganu plygain a thipyn bach o gefndir y carolau gan Barti Camddwr, wrth iddynt gyflwyno’r carolau Daeth Nadolig, a Deffrown! Deffrown! Cawsom hefyd berfformiad o ddwy garol plygain gan Efan Williams, sef Hosnna Mwy a Mae Gwahoddiad.
Canwyd carol arall gan y gynulleidfa cyn i Eirlys a Gesuine ymhelaethu rhagor ar draddodiadau hen galan Cwm Gwaun, y canu calennig, ac yn olaf hanes traddodiad y Fari Lwyd yng Nghymru. Cawsom ymweliad gan y Fari Lwyd ei hunan wedyn, a buodd y gynulleidfa a pharti’r Fari Lwyd yn pwnco am sbel wedyn cyn caniatáu mynediad i’r Fari i’r festri.
Canwyd Carol y Swper wedyn gan bawb wedi ein harwain gan Barti Camddwr a mwynhaodd pawb luniaeth blasus wedi ei baratoi gan aelodau Capel Bronant a chyfle i bawb gymdeithasu dros baned o de. Gwnaed casgliad ar y noson tuag at Feiciau Gwaed Cymru.
Diolch i bawb am eu cefnogaeth hael!