Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Dewch i ddathlu’r Hen Galan ym Mronant!
Wedi i ni orfod canslo’r noson garolau oedd fod i ddigwydd yn neuadd Bronant ym mis Rhagfyr, dyma benderfynu ail-drefnu yn syth, ond gyda gogwydd arall ar ddathliadau’r Ystwyll.
Byddwn yn cael cwmni’r Fari Lwyd, ynghŷd â mwynhau perfformiadau o garolau plygain gan Barti Camddwr a Thriawd Rhydlwyd. Bydd pawb yn cael cyfle i “bwnco’r” Fari Lwyd a hefyd dysgu tipyn yn rhagor am ein hen draddodiadau yn ystod yr Hen Galan.
Felly dewch yn llu i Festri Capel Bronant ar nos Fercher 22/01/25 am 7.30 pm i dwymo a mwynhau noson gymdeithasol braf.