Sa i’n arfer cymryd llawer o wyliau ar ôl diwedd Awst, mae’r hydref yn gyfnod prysur o ran y Gwaith sy’n talu, y ffermio a’r diddordebau.
Ond eleni fe gymeron ni bythefnos cyfan ar gyfer taith deuluol i Nepal, roedd y gwyliau yn wych ond roedd yna waith paratoi ac wedyn gwaith dal i fyny.
Erbyn nawr ni wedi bod adre am fis ac er i sawl dydd Sul fynd ar drin y defaid, ffermio cyffredinol a gwaith papur mae pethau’n bell o fod dan reolaeth. Er hynny mae’r TAW wedi cael ei wneud yn ogystal â ffurflenni RPW yn cofnodi cynefin a choed ar bob cae ym Mhenbryn a dwi wedi cyflawni’n arolygiad Organig am flwyddyn arall. Mae’n syndod faint o waith papur sydd ei angen i redeg busnes y dyddiau yma.
Dwi hefyd wedi cwblhau cyfrifon Sioe Llangeitho. Wel, y mwyafrif ohonynt – dwi dal i aros am ambell i siec ac anfoneb. Mae hefyd angen adolygu cyfrif banc y sioe, a bod pethau’n aros fel ag y maent bydd yna ddau gan punt y flwyddyn yn ychwanegol i’w dalu am wasanaethau’r banc.
Y prif waith ar y fferm yw brechu a thrin y defaid er mwyn gwarchod eu hiechyd dros y gaeaf. Ar y cyfan maent mewn cyflwr da (er i mi ddarganfod un yn gelain farw yn y sied bore ‘ma, tasg arall ar gyfer dydd Sul) a dwi wedi buddsoddi mewn brechlyn i
osgoi cloffni. Mae dros bunt y ddafad ond sa’i ishe’r un ffwdan a gefais aeaf llynedd. Mae yna hefyd dal dros drigain o ŵyn i werthu gennyf. Fe es i â 14 o rai Brynda i’r lladd-dy yr wythnos hon. Roedd y pwysau a’r safon yn siomedig iawn, baswn i wedi bod yn
gallach i’w gwerthu fel stôr yn mart Tregaron. Dwi’n amau byddai’r pris ar gyfartaledd yn well a byddai yna geiniog a dimau i ffermwr arall. Mae ŵyn Brynda wedi graddio’n ddiddim trwy’r flwyddyn. R3H a 14 kg yw’r nod ond llawer gormod yn O2 neu lai a’r
pwysau hefyd yn isel.
Y gwir yw bod angen ail-hadu’r caeau a chynnig gwell porfa iddynt. Ond gyda’r newidiadau i’r taliad sengl sydd ar y gweill digon posib bydd y ddaear yn talu’n well fel cynefin amgylcheddol ac am lai o gostau a gwaith. Byddwn ni’n gwybod erbyn yr haf, un ffordd neu’r llall.
Mae’r newidiadau i dreth etifeddiaeth yn breeder hefyd. Mae ffermydd teuluol yn asgwrn cefn i gynhyrchu bwyd a gwarchod yr amgylchedd ar draws y byd. Mae ffermwyr yn medru benthyg arian i fuddsoddi yn y busnes ac mae’r gallu i basio’r fferm ymlaen i’ch plant yn eich ysgogi i warchod yr amgylchedd sy’n rhan annatod o berchen ddaear.
Yn anffodus dwi’n gweld yr adroddiadau ar y cyfryngau yn anghywir – mae ffermwyr eisoes yn talu treth etifeddiaeth fel pawb arall, ond nid ar y tir chi’n ffermio. Bydd rhaid cymryd cyngor proffesiynol (mwy o gostau) ond fel dwi’n ei deall hi os oes yna dŷ
ychwanegol ar y fferm ar gyfer y genhedlaeth flaenorol mae’n cael ei drethu’n barod a hefyd gwerth y stoc a pheiriannau. A bod gwerth y ddaear yn cael ei ychwanegu at rhain bydd yr isafswm cyn talu treth yn cael ei gyrraedd yn fuan iawn ar y mwyafrif o ffermydd teuluol Cymru, ond yn anffodus nid ar ei allu i gynhyrchu bwyd mae pris tir yn ddibynnol. Os nad yw’r Canghellor yn newid rhywbeth eto bydd gallu’r genhedlaeth nesaf i gynhyrchu bwyd a gwarchod yr amgylchedd ar ffermydd teuluol yn dirywio’n arw.