Mae rhifyn mis Ionawr papur bro Y Barcud allan yn eich siopau lleol erbyn hyn. Golygwyd rhifyn mis Ionawr gan Efan Williams, Lledrod a cheir sylw ar y dudalen flaen i Sioe Bathlehem, sef stori’r geni wedi ei gyfarwyddo gan Gerald Morgan, a’r holl elw yn mynd at elusen cancr plant, Latch.
Ceir hanes ein hysgolion cynradd yn dathlu’r Nadolig yn ogystal â hanes gêm bêl droed Sêr Dewi yn erbyn Felinfach a hefyd tystiolaeth o ddinistr storm Darragh.
Ewch allan i hawlio eich copi a chefnogi ein papur bro. Dyma’r lleoliadau;
Aeron Booksellers, Aberaeron
Siop Glanarthen, Cross Inn
Siop y Smotyn Du, Llambed
Garej Jenkins, Tregaron
D.I. Davies, (Cigydd) Tregaron
New Inn, Llanddewi Brefi
Siop Llangeitho
‘Rhen Ysgol, Bwlchllan
Llwyn Onn ac Ardwyn, Bronant
Anrhegaron, Tregaron
Siop Nwyddau Caron Stores, Tregaron
Siop y Bont, Pontrhydfendigaid
Wyre View, Lledrod (honesty box)
Siop Llanilar
Siop Blaenplwyf
Siop Inc, Aberystwyth
Broc Môr, Aberystwyth
Cofiwch am ein noson gymdeithasol yn Nhafarn y Bont, Bronant nos Wener 17 Ionawr.
Dewch yn llu!