Dydd Iau Gorffennaf y 18fed clywodd staff Ysbyty Tregaron am fwriad Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ystyried cau Ysbyty Tregaron ym Mis Medi eleni.
Mae Ysbyty cymunedol wedi bod ar safle Heol Dewi er dros ganrif ac wedi cynnig gwasanaeth arbennig i gymunedau gwledig yr ardal. Mae’r safle wedi bod yn rhedeg o dan ei gynhwysedd ers blynyddoedd, er bod ysbytai eraill yn orlawn gyda chleifion yn gorfod aros mewn coridorau am oriau a dyddiau mewn rhai achosion.
Mewn ymateb roedd y bwrdd iechyd yn cyfiawnhau cau Ysbyty Tregaron trwy ddweud ei fod yn rhan o fodel newydd o ofal yn y gymuned gyda chleifion yn cael gofal adre yn hytrach nac mewn ysbyty. Yn ol Peter Skitt, Cyfarwyddwr Ceredigion Bwrdd Iechyd Hywel Dda “Er ymdrechion i recriwtio mae lefelau staff yn Nhregaron yn isel, sy’n rhoi pwysau ar ein llif gwaith” meddai “Ein bwriad yw symud staff o’r ysbyty i fod yn y gymuned. Bydd hyn yn galluogi ni i wasanaethu fwy o gleifion yn eu cartrefi” ychwanegodd.
Mae’r Cynghorydd Sir leol, Ifan Davies yn amheus o’r datblygiad diweddaraf. “Mae’r bwrdd iechyd wedi addo ers blynyddoedd na fydd ysbyty Tregaron yn cau tan fod datblygiad iechyd integredig Cylch Caron wedi ei sefydlu, felly mae’r newyddion hyn yn siomedig iawn” meddai “Mae Ysbyty Tregaron yn adnodd arbennig i’r ardal. Mae’r cleifion yn cael gwasanaeth arbennig gan y staff, ac mae’r Ysbyty yn cynnig gwaith yn lleol. Mae’n ddiddorol fod y newyddion am gau’r Ysbyty yn dod yr un wythnos a’r newyddion fod cynllun Cylch Caron am fynd yn ôl i dendr unwaith eto. Er mor galonogol yw’r newyddion fod cynllun Cylch Caron yn mynd nôl i dendr, wrth gwrs nid yw’n rhoi unrhyw sicrwydd fod y cynllun i mynd i gael ei wireddu. Mae’r ardal wedi bod yn trafod Cylch Caron ers degawd ac eto does dim sicrwydd o hyd” ychwanegodd.
Mae cynllun Cylch Caron yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru. Bydd yn cynnwys meddygfa, fferyllfa gymunedol, clinigau cleifion allanol a chyfleusterau nyrsio cymunedol a gofal cymdeithasol, yn ogystal â fflatiau gofal ychwanegol ac unedau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.
Roedd Aelod Llywodraeth Cymru Ceredigion Elin Jones hefyd yn rhwystredig gyda’r newyddion am gau’r ysbyty
“Mae’n sioc i glywed bwriad y Bwrdd Iechyd i gau gwelyau ysbyty Tregaron a throsglwyddo’r staff i ofal yn y gymuned. Mi oeddwn yn disgwyl i’r adeilad gau pan fyddai Cylch Caron yn barod, ond nid cyn hynny. Mae cymaint o angen gofal iechyd ar gyfer ein henoed yn ac felly mae’n newyddion gofidus i golli elfen bwysig yma o’r gadwyn gofal. Mi rydw i wedi siarad gyda Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd unwaith i fi glywed fod hyn yn bosibilrwydd. Byddant yn cynnal cyfarfod i ymgynghori ac esbonio eu cynlluniau gyda’r gymuned yn lleol, cyn cymryd penderfyniad terfynol yn eu cyfarfod Bwrdd ddiwedd mis Medi.” meddai
Gwyddwn fod cyllideb bwrdd iechyd Hywel Dda o dan bwysau a bod ymdrechion eang i wneud arbedion ariannol.
Bydd cyfnod ymgysylltu pedair wythnos yn lansio ar 1 Awst ac yn para tan 29 Awst 2024. Bydd unigolion yn gallu mynychu digwyddiadau ar-lein neu wyneb yn wyneb ac yn gallu rhannu eu barn trwy borth Dweud Eich Dweud y Bwrdd Iechyd. Bydd adborth o’r ymgysylltiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Bwrdd Iechyd ym mis Medi.
Dyma’r linc i’r dudalen adborth ‘Have Your Say’ https://www.haveyoursay.hduhb.wales.nhs.uk