Tregaron Turfs, dan 7 yn edrych yn smart iawn!

Cit newydd i’r pêl-droedwyr bach o Dregaron.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Diolch i’r Cigydd Dai Isaac, Adeiladwr Marc Jones ac Arwerthwyr Lloyd Herbert a Jones am noddi cit newydd timau dan 7 Tregaron Turfs.

Mae dros 15 chwaraewr ifanc yn ymarfer yn gyson bob wythnos ac mae dau dîm yn chwarae bob dydd Sadwrn yng Nghyngrair Aberystwyth. Mae’r timoedd wrth eu bodd!

Mae’r criw yn edrych yn smart iawn ac yn barod am fwy o gemau nawr. Diolch i Paul sy’n hyfforddi’r criw yn wythnosol, diolch i’r noddwyr a phawb sy’n cynorthwyo’r pêl-droedwyr bach.